Ffermwr yn 'teimlo fel troseddwr' am greu pwll ar ei dir

  • Cyhoeddwyd
Fred Meakin yn gwylio'r gwaith o lenwi'r pwll
Disgrifiad o’r llun,

Fred Meakin yn gwylio'r gwaith o lenwi'r pwll

Mae ffermwr oedrannus yn dweud ei fod wedi cael ei wneud "i deimlo fel troseddwr" ar ôl creu pwll ar gyfer bywyd gwyllt ar ei dir.

Bu'n rhaid i Fred Meakin, 76, lenwi'r pwll 20-metr ger ei gartref ym Mrynteg, Ynys Môn neu wynebu dirwy o £5,000 dan reolau Llywodraeth Cymru.

Roedd swyddogion amgylcheddol wedi rhybuddio y gallai'r pwll fod wedi peryglu rhywogaethau prin ar y corstir.

Dywedodd Mr Meakin bod y penderfyniad wedi bod yn sioc iddo.

"Mae wedi fy ypsetio yn ofnadwy," meddai. "Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fel troseddwr."

Fe gafodd rybudd i adfer y tir wedi asesiad o effaith amgylcheddol y pwll.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed llefarydd fod angen i berchnogion tir gysylltu gyda Llywodraeth Cymru cyn gwneud unrhyw newidiadau i safleoedd lled-naturiol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y safle dan sylw wedi ei ddynodi'n dir "lled-naturiol" a bod nifer o reolau amgylcheddol yn berthnasol o'r herwydd.

"Mae'r rheolau yna i warchod cynefinoedd naturiol rhag newidiadau a all peryglu planhigion ac anifeiliaid prin," meddai.

Ychwanegodd y dylai perchnogion tir gysylltu gyda Llywodraeth Cymru cyn gwneud unrhyw newidiadau i safleoedd lled-naturiol.