Cweir arall i Forgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd

  • Cyhoeddwyd
Ruaidhri SmithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad Ruaidhri Smith oedd yr unig gysur mewn colled drom arall i Forgannwg

Mae tîm criced Morgannwg wedi cael cweir arall ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Durham yng Ngerddi Soffia.

Ar ôl sgorio 154 yn eu batiad cyntaf, roedd yn rhaid i Forgannwg ymateb i gyfanswm Durham o 295 yn eu batiad nhw.

Ond yn ail fatiad y tîm cartref fe ddaeth ffaeleddau batio Morgannwg i'r amlwg eto.

Cyn i'r glaw ddod â'r chwarae i ben ychydig wedi 18:00 ddydd Llun, roedden nhw wedi sgorio 79 yn unig wrth golli saith wiced.

Ychydig dros hanner awr gymrod hi i Durham gipio'r tair wiced oedd yn weddill, gyda Morgannwg i gyd allan am 111.

Yr unig gysur i Forgannwg mewn perfformiad gwael oedd perfformiad Ruaidhri Smith. Yn ogystal â bod yn brif sgoriwr batiad cyntaf Morgannwg gyda 36, fe gipiodd bum wiced ym matiad Durham.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm yn Adran 2 o Bencampwriaeth y Siroedd gan golli chwech. Maen nhw'n sownd ar waelod y tabl.