Y Cymro Aneurin Donald yn gadael Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae batiwr Morgannwg, Aneurin Donald wedi ymuno â Hampshire ar fenthyg, cyn ymuno'n barhaol ar ddiwedd y tymor.
Mae'r Cymro 21 oed o Abertawe wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r sir yn ne Lloegr, fydd yn dechrau yn nhymor 2019.
Fe wnaeth Donald ei ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg yn 2014, ac ers hynny mae wedi sgorio dros 2,000 o rediadau i'r sir.
Roedd y batiwr wedi gwrthod cytundeb tair blynedd newydd i aros yng Nghymru.
Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris eu bod yn "siomedig ei fod wedi gwrthod y cynnig a phenderfynu symud ymlaen".
"Er hynny rydym eisiau diolch i Aneurin am ei gyfraniad i Forgannwg ac yn dymuno llwyddiant iddo yn y dyfodol," meddai.