Dringwr o Wynedd yn concro un o ddringfeydd anodda’r byd
- Cyhoeddwyd
Mae dringwr o Wynedd wedi llwyddo i ddod yn un o'r bobl gyntaf i goncro un o ddringfeydd anodda'r byd.
Does neb erioed wedi llwyddo i ddringo crib ogleddol mynydd Latok 1 sy'n rhan o fynyddoedd yr Himalayas yn Pakistan.
Daeth newyddion i law y British Mountaineering Council (BMC), sy'n noddi'r grŵp o ddringwyr, fod Tom Livingstone o Lanberis wedi llwyddo.
Dywedodd Mr Livingstone ar raglen Good Morning Wales fod byw yng ngogledd Cymru yng nghanol mynyddoedd gwych wedi bod o gymorth iddo.
Roedd Mr Livingstone, sy'n hyfforddwr gweithgareddau awyr agored yn dringo gyda dau arall o Slofenia, Aleš Česen ac Luka Strazar.
Mae mynydd Latok 1 yn 7,145m ac yn cael ei ystyried yn un o'r mynyddoedd anoddaf yn y byd i'w goncro.
Mae tua 30 o dimoedd wedi ceisio dringo i'r copa yn y gorffennol a dim ond un grŵp o Japan lwyddodd yn 1979 a hynny drwy ddringo'r ochr ddeheuol.
Dyma'r tro cyntaf erioed i Mr Livingstone ddringo unrhyw fynydd yn yr Himalayas ac ychwanegodd bod profiad ei gyd-ddringwyr o Slofenia wedi bod yn allweddol.
'Taro'r jacpot'
"Roedd fy ffrindiau o Slofenia a minnau yn edrych ymlaen yn fawr at sialens fel hyn ac maen nhw yn ddringwyr profiadol sydd wedi dringo o'r blaen yn yr Himalayas," meddai.
"Roedden nhw'n wych o ran rhoi hyfforddiant i mi ar sut i fynd ati ar y mynydd."
Fe gymrodd y grŵp wythnos i gyrraedd y copa drwy gynllunio eu llwybr yn ofalus.
Mae nifer o ddringwyr sydd wedi ceisio dringo'r ochr ogleddol o'r mynydd wedi gorfod cael eu hachub cyn cyrraedd y copa.
"Fe aeth popeth yn iawn ac fe ddaethom oddi yno wedi taro'r jacpot. Mae'n rhywbeth prin iawn. Rydym yn falch iawn sut weithiodd popeth," meddai.