Adran Dau: Casnewydd 3-2 Notts County

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i'r wythfed safle yn y tabl

Roedd gôl hwyr gan Jamille Matt yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gasnewydd mewn gem gyffrous yn Rodney Parade.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 12 munud, wrth i Kane Hemmings ergydio'n gywir heibio Enzio Boldewijn i gornel y rhwyd.

Llwyddodd y tîm cartref i daro 'nol drwy sgorio dwy gôl mewn dau funud.

Peniad o gic gornel gan Fraser Franks unionodd y sgôr, cyn i Mark Harris - ar fenthyg o Gaerdydd - ymateb yn dda i groesiad Padraig Amond i roi Casnewydd ar y blaen.

Er gwaethaf amddiffyn cadarn gan Gasnewydd yn ystod yr ail hanner, fe sgoriodd Kristian Dennis i Notts County wedi 87 munud.

Gyda 95 munud ar y cloc, dal i bwyso gwnaeth Casnewydd.

Jamille Matt ymatebodd gyntaf i gic rydd gan Amond, gan daro'r bel yn gadarn i gornel chwith y gôl.

Golygai'r fuddugoliaeth bod Casnewydd yn codi i'r wythfed safle yn y tabl.