Adran 2: Casnewydd 1-0 Crewe

  • Cyhoeddwyd
Padraig Amond puts the ball past Crewe keeper Dave Richards to give Newport the leadFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Padraig Amond yn sgorio i roi Casnewydd ar y blaen

Aeth Casnewydd ar y blaen yn eu gêm yn erbyn Crewe Alexandra ar ôl ychydig dros hanner awr gyda pheniad gan Padraig Amond o ganol y blwch cosbi i gornel chwith uchaf y rhwyd.

Daeth hyn ar ôl sawl ymgais gan yr Alltudion ac fe barhaodd pethau felly wrth i dîm Michael Flynn fygwth yn gyson.

Doedd Crewe ddim yn ildio ac wrth barhau i ymosod pan oedd cyfle fe droseddodd Scott Bennett yn erbyn Paul Green yn y blwch cosbi ac yr oedd Crewe yn gweld gobaith am ddod yn gyfartal.

Ond er i Green ergydio am waelod cornel chwith y rhwyd fe arbedodd Joe Day yn rhagorol a chadw Casnewydd ar y blaen efo pedwar munud ar hugain ar ôl o'r gem.

1-0 oedd y sgôr ar y chwiban olaf ac fe sicrhaodd Casnewydd eu tri phwynt cyntaf yn y tymor newydd.