Siom yn Iwerddon dros ddiflaniad rhaglenni teledu S4C

  • Cyhoeddwyd
Gwefan S4CFfynhonnell y llun, Gwefan S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywed S4C fod modd gweld rhaglenni'r sianel y tu hwnt i'r DU trwy wasanaeth Clic

Mae Cymry sy'n byw yn Iwerddon wedi mynegi siom wedi i raglenni S4C ddiflannu'n annisgwyl o wasanaethau cwmni Sky yn y wlad.

Roedd y rhaglenni i'w gweld yno tan bythefnos yn ôl.

Mae Sky yn dweud fod "y penderfyniad i dynnu'r gwasanaeth wedi ei wneud gan y darlledwr am resymau hawliau", a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at S4C.

Cyfyngiadau cytundebol sydd i gyfrif am y sefyllfa, medd S4C mewn datganiad, ac fe ddylai gwylwyr y tu hwnt i Gymru allu gweld "popeth sydd ar gael tu allan i'r DU" drwy'r gwasanaeth ar alw, Clic.

Dywed y sianel yn eu datganiad: "Yn anffodus nid oes modd dangos S4C ar Sky yn Iwerddon oherwydd cyfyngiadau cytundebol.

"Mae modd gwylio nifer o raglenni S4C yn rhyngwladol, gan gynnwys nifer fawr o raglenni Cyw, drwy S4C Clic ar ein gwefan neu App S4C sydd ar gael i ffonau a llechi/tabledi Apple ac Android."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dylan Edwards sy'n byw yn Nulyn fod rhaglenni gwasanaeth Cyw wedi bod yn help i'w blant ddod i arfer â mamiaith eu tad

Dywedodd Dylan Edwards, sy'n byw yn Nulyn ac yn wreiddiol o Lanrwst, ei fod wedi bod yn mwynhau rhaglenni o'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd cyn i S4C ddiflannu o wasanaethau Sky bythefnos yn ôl heb "dim rhybudd na dim byd".

"Nes i gysylltu efo Sky Ireland trw' trydar a wedyn yn y cyfamser, es i ar dudalen Facebook Draig Werdd, Cymdeithas Gymraeg Cymry Dulyn i ofyn os oedd pobol eraill yn ca'l yr un broblem, ac oedd 'na rywfaint.

"Ddoth Sky yn ôl ataf fi a d'eud bo' nhw 'di tynnu'r sianel yn barhaol, a bod o'm yn debyg bod o am ddod yn ôl. Mae'n bechod."

Roedd Mr Edwards yn awyddus i dderbyn y sianel fel bod ei blant, sydd dan 4 oed, yn dod yn gyfarwydd â'r Gymraeg trwy wylio rhaglenni gwasanaeth Cyw.

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio gwylio rhaglenni S4C ar-lein trwy wasanaeth Clic ond ei fod heb lwyddo hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Sky mai S4C "sydd yn y lle gorau i roi cyngor i wylwyr yn sgil y penderfyniad i ofyn am dynnu S4C o'r platfform Sky".