S4C i wario £3m ar 'strategaeth ddigidol' wedi adolygiad
- Cyhoeddwyd

Bydd S4C yn gwario £3m dros dair blynedd i "ddatblygu strategaeth ddigidol y sianel" mewn ymateb i adolygiad annibynnol o'r gwasanaeth.
Bydd y sianel yn gwario'r arian ar wella gwasanaeth ar alw Clic, a chreu platfformau digidol newydd.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones y byddai'r arian ychwanegol yn cael ei wario ar gynllun "er mwyn cyflawni mwy ar gyfer ein gwylwyr".
Daw'r cyhoeddiad wedi adolygiad Euryn Ogwen Williams oedd yn dweud nad oes angen mwy o arian ar y sianel i gynnig mwy o wasanaethau digidol, a bod angen newid strwythur rheoli'r sianel.
'Gwasanaeth personol i wylwyr'
Roedd adolygiad Mr Williams yn dweud bod strwythur S4C yn arafu'r broses o fanteisio ar gyfleoedd newydd yr oes ddigidol, a galwodd am greu bwrdd newydd o swyddogion y sianel ac aelodau anweithredol.
Mynnodd nad oedd ei adroddiad yn feirniadaeth o S4C, ond dywedodd bod angen iddyn nhw "weithio'n gyflymach i gystadlu" a bod yn "bartner gwell" i weddill y sector ddarlledu.
Yn trafod yr adolygiad yng Nghaerdydd ddydd Iau, dywedodd Mr Jones ei fod yn "gam allweddol" wrth edrych i'r dyfodol.
Huw Jones: 'Sefydlogrwydd ariannol yn beth pwysig'
Dywedodd hefyd bod yr elfennau digidol yn yr adroddiad "ddim yn newydd i ni", gan ddweud y byddai S4C yn "symud o gynnig un sianel sydd angen cynnwys dipyn o bopeth i bawb, i allu cynnig gwasanaeth personol i wylwyr unigol".
Dywedodd bod awdurdod y sianel eisoes wedi cytuno ar gamau cychwynnol bwrdd newydd, ac y byddai'r strwythur newydd yn weithredol erbyn yr hydref.
Mae S4C yn dweud y byddai cynnig gwasanaethau personol yn cynnwys ymestyn y gwasanaeth gwylio ar-lein, Clic, a chynnig cynnwys ar ffurfiau gwahanol.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid gwneud "penderfyniadau strategol a phenodol" i sicrhau bod y sianel yn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd presennol a rhai'r dyfodol.

Roedd Euryn Ogwen Williams wedi dweud bod angen i S4C "weithio'n gyflymach i gystadlu"
Er i'r adroddiad alw am sawl newid, dywedodd Mr Jones: "Un peth nad yw'n cael ei argymell yw unrhyw newid i genhadaeth unigryw S4C o ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."
Dywedodd ei fod "yn synnwyr cyffredin fod gan S4C rôl i'w chwarae yn natblygiad yr iaith" a bod "cefnogaeth glir gan Lywodraeth San Steffan i hyn".
Roedd adolygiad Mr Williams wedi awgrymu y dylai holl gyllid S4C ddod o ffi drwydded y BBC, yn lle derbyn arian gan Lywodraeth y DU a'r ffi ar y cyd.
Yn ei araith, dywedodd Mr Jones y byddai dibynnu ar y ffi drwydded yn unig yn ddadleuol, ond bod y cytundeb presennol gyda'r BBC yn sicrhau eu gallu i gyd-weithio'n agos heb effeithio annibyniaeth S4C.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017