Miloedd o alwadau heddlu 101 heb eu hateb yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan alwadau

Mae degau o filoedd o achosion o bobl yn rhoi'r gorau i ddisgwyl am ateb ar linell gymorth 101 yr heddlu.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru, roedd 135,389 o achosion o roi'r gorau i ddisgwyl neu dargyfeirio yng Nghymru yn 2017.

Mae Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "pryderus" ac mae'n cydnabod bod lle i wella.

Mae lluoedd yng Nghymru'n ystyried gwneud mwy o ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg arall i ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaeth.

Beth ydy 101?

Cafodd gwasanaeth 101 ei lansio bron i ddegawd yn ôl, gyda'r bwriad o gynnig gwasanaeth ar gyfer achosion sydd ddim yn argyfwng a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth 999.

Yn ddiweddar mae pwysau ar y gwasanaeth wedi cynyddu, a'r lluoedd yn dweud bod cynnydd hefyd mewn galwadau anaddas.

Roedd Caerdydd yn un o sawl ardal beilot ar draws Cymru a Lloegr.

Mae'r holl alwadau yn costio 15 ceiniog, dim ots beth yw hyd yr alwad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sion Jones yn gynghorydd dros ardal Bethel yng Ngwynedd

Mae'r cynghorydd sir o Wynedd, Sion Jones wedi ceisio cysylltu â 101 sawl gwaith ar ran etholwyr ynglŷn ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yrru peryglus.

Mae'n anhapus gyda'r gwasanaeth ac am weld adolygiad: "Mae yna gymaint o ddigwyddiadau'n digwydd.... 'dan ni'n teimlo bod o ddim yn argyfwng 999 felly 'dan ni'n ffonio 101.

"Dwi 'di cael gymaint o brofiadau o swyddogion yr heddlu yn dweud wrtha i, paid â ffonio 101, ffonia 999 i gael y gwasanaeth yn syth.

"Mae'n rhaid i ni gael adolygiad o sut mae'r gwasanaeth 101 yn gweithio."

Beth ydy'r sefyllfa dros Gymru?

Mae'r graff yn dangos y canran o achosion o roi'r gorau i alwadau cyn eu hateb i luoedd Cymru yn 2016 a 2017.

Heddlu Gwent

Yn ardal Heddlu Gwent roedd 47,734 achos o bobl yn rhoi'r gorau i alwad yn 2017, 21% o'r holl alwadau.

Roedd hynny'n gwymp o 2016, pan oedd 74,000 achos - 28% o alwadau.

6.9% (17,068 achos) oedd yn 2013, 9.2% (24,552 achos) yn 2014 a 14.3% (39,330) yn 2015.

Heddlu De Cymru

Roedd 36,660 achos o bobl yn rhoi'r gorau i alwadau neu'n cael eu harallgyfeirio yn ardal Heddlu De Cymru y llynedd - 9% o'r holl alwadau.

Yn 2016 roedd yn 6% (23,211) wedi lefelau isel yn 2015 a 2014 (0.9% ac 1.4%). Ond yn 2013 cafodd 13,140 o alwadau eu gollwng, 3.2% o'r holl alwadau.

Heddlu Dyfed-Powys

26,462 achos oedd i Heddlu Dyfed-Powys yn 2017, 11% o'r holl alwadau - cwymp o 36,144 yn 2016, neu 14.2%.

Heddlu Gogledd Cymru

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru 24,533 achos yn 2017, sef 7.4% o'u galwadau, oedd yn gynnydd o'r ffigwr yn 2016 o 16,863, neu 5.1% o alwadau.

Disgrifiad o’r llun,

Alun Michael yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael yn cydnabod bod angen gwella.

"Os yw pobl eisiau cysylltu â'r heddlu, yn gyffredinol mae rhywbeth pwysig yn digwydd ac mi ddylen nhw fynd trwodd.

"Ond y broblem ydy nifer y galwadau sy'n dod i mewn a dyna pam 'dan ni'n trio darganfod ffyrdd eraill o roi cyfle i bobl gysylltu â'r heddlu."

Mae Heddlu'r De yn dweud bod rhai galwadau, sy'n cael eu cofnodi fel achosion o bobl yn rhoi'r gorau i'r alwad, mewn gwirionedd wedi cael eu harallgyfeirio at wasanaethau eraill.

Ond mae 'na gydnabyddiaeth bod nifer yn rhoi'r ffôn i lawr am eu bod wedi aros yn rhy hir.

Cyfryngau newydd?

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn bwriadu gwella'r gwasanaeth drwy "sicrhau bod yr adnoddau dynol yno".

Mae'n dweud hefyd bod cyfleoedd gyda chyfryngau newydd: "Mae yna gyfleoedd i ni ymgysylltu gyda'r gymuned mewn gwahanol ffyrdd gan ddefnyddio Facebook neu Twitter neu hyd yn oed grwpiau fel Whatsapp.

"Ni 'di gweld nhw'n cael eu defnyddio'n dda iawn mewn ardaloedd gwledig iawn fel rhan o'r cynllun a strategaeth plismona gwledig sydd gyda ni."

Yn ôl yr Uwch-arolygydd Vicki Townsend o Heddlu Gwent, mae gwaith yn cael ei wneud i geisio deall pam bod pobl yn rhoi'r gorau i'w galwadau yn gyson.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jeff Moses o Heddlu Gogledd Cymru y dylai pobl ystyried galwadau i'r gwasanaeth 101 fel galwadau i gyflenwyr ynni - lle nad oes sicrwydd o gael ateb ar unwaith.