Disgwyl miloedd i fynychu 10fed Sioe Awyr Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i'r Rhyl dros y penwythnos ar gyfer 10fed sioe awyr blynyddol y dref.
Bydd y digwyddiad deuddydd yn croesawu'r awyrennau fel y Red Arrows a'r bomiwr Bristol Blenheim olaf yn yr awyr dros ogledd Cymru.
Mae disgwyl rhagor o draffig o amgylch y dref ac ar yr A55, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori ymwelwyr i adael mwy o amser teithio.
Dechreuodd y digwyddiadau brynhawn Sadwrn, ac fe fyddan nhw'n parhau ddydd Sul.
Tîm erobatig Raven wnaeth yn agor y digwyddiad ddydd Sadwrn, gyda thîm parasiwt y Red Devils yn cau'r diwrnod cyntaf.
Yr awyren Blenheim olaf - wnaeth ymddangos yn ffilm Dunkirk y llynedd - yw un o'r prif atyniadau ddydd Sul, cyn i'r Red Arrows gloi'r digwyddiad.
Annog cerdded a seiclo
Mae'r cyngor yn annog unrhyw un sy'n gallu i gerdded neu seiclo i'r digwyddiad er mwyn lleddfu'r effaith ar y traffig.
Dywedodd y cynghorydd Win Mullen-James, Maer Y Rhyl: "Mae'r Sioe Awyr yn un o uchafbwyntiau rhaglen ddigwyddiadau helaeth Y Rhyl ac mae'n sicr o blesio'r gynulleidfa.
"Mae ymwelwyr bob amser yn heidio i'r ardal, a gyda'n rhestr gyffrous o berfformwyr, maent yn siŵr o ddyfod yma eto eleni.
"Mae llawer o bobl leol yn beicio neu'n cerdded i'r promenâd i wylio'r arddangosfeydd yn yr awyr a byddem yn eu hannog i wneud hynny eto eleni er mwyn cadw traffig yn symud o amgylch y dref."