Diffodd tân mewn iard sgrap ger maes awyr yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae tân mawr mewn iard sgrap ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro bellach wedi ei ddiffodd.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân anfon chwe cherbyd i'r digwyddiad ger maes awyr Carew oddi ar yr A477 toc wedi 14:30 ddydd Sadwrn.
Dywedodd llygad dystion eu bod yn gallu gweld "cwmwl uchel o fwg oedd i'w weld o filltiroedd" yn dod o'r safle, sydd hefyd yn agos i ganolfan gartio Carew.
Fe wnaeth y diffoddwyr olaf adael y safle tua 21:00 nos Sadwrn, a dywedodd llefarydd ar y gwasanaeth nad oedden nhw'n trin y tân fel un amheus.
