Ffermwyr Arfordir Penfro i elwa o ddefnydd grug ac eithin
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwyr o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn medru elwa o ddefnyddio grug ac eithin ar gyfer anifeiliaid, wrth i bris gwellt gynyddu'n aruthrol yn sgil y sychder diweddar.
Mae'r Parc yn torri grug ac eithin fel ffordd o reoli'r perygl o dân, ond am y tro cyntaf eleni fe fydd yn cael ei gynnig fel sarn er mwyn i ffermwyr lleol allu rhoi llawr gwely i anifeiliaid.
Bu cynlluniau tebyg ym Mhen Llŷn ac Ynys Môn yn llwyddiannus yn y gorffennol.
Yn ôl Geraint Jones, sydd yn Swyddog Gwarchodaeth Fferm gyda'r Parc, mae yna "nifer o fanteision" i'r cynllun.
Mae'r gweundiroedd sydd yn cael eu torri fel rhan o'r cynllun yn elwa, am fod y tir a'r tyfiant yn adnewyddu wrth waredu'r grug a'r eithin.
Bydd ffermwyr wedyn yn gallu casglu'r sarn yn rhad ac am ddim.
Hyd yma mae tir comin yng Nghasfuwch yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn rhan o'r arbrawf.
'Cyfraniad gwerth chweil'
Dywedodd Mr Jones: "Mae yna nifer o fanteision - mae cael deunydd amgen i wellt yn dipyn rhatach yn fuddiol i ffermwyr.
"Dyw e ddim yn ateb y broblem ond mae'n gyfraniad gwerth chweil i'r achos. Manteision eraill yw bod e'n lleihau'r llwyth tanwydd ar y Gweundiroedd, mae hynny yn lleihau'r risg o danau gwylltion.
"Yn strwythurol, mae'n gwella'r gweundiroedd o ran gwarchodaeth natur," meddai.
Ychwanegodd fod y cynllun yn golygu bod "ffermwyr ar eu hennill, mae'r tir ei hun ar ei ennill, ac mae cymdeithas ar ei hennill drwy leihau'r risg o danau gwylltion".