Pryder am ymosodiadau cynyddol ar blismyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Prif Gwnstabl dros dro Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn bryderus am y nifer cynyddol o ymosodiadau ar blismyn, gan gyfeirio yn benodol at ddifrifoldeb yr anafiadau.

Daw sylwadau Gareth Pritchard ar ôl saith ymosodiad ar blismyn mewn gwahanol rannau o'r gogledd dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Dywedodd ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru fod yr ymosodiadau yn destun pryder ac yn gwbl annerbyniol.

Mae'r heddlu wedi sefydlu grŵp arbenigol i adolygu'r achosion diweddara.

Roedd y digwyddiadau, meddai Mr Pritchard yn cynnwys trwyn wedi torri a brathiadau.

"Mae yna droseddwyr sy'n brathu ein swyddogion ac mae rhai o'r troseddwyr - 'de ni'n meddwl fod ganddyn nhw glefydau perygl.

"Mae yna berygl fod y clefydau yn cael eu trosglwyddo - mae'r broses o driniaeth felly yn un anodd ac yn hir i'r swyddog ac i'r teulu.

"Felly rydym yn bryderus sut mae hyn wedi datblygu."

Ers yr ymosodiadau dywed Heddlu'r Gogledd fod pedwar o bobl wedi eu harestio a'u cyhuddo o ymosod ar blismyn yng Ngwynedd, ac mae dau arall wedi eu harestio yn ardal Wrecsam.