FSCS i ddiogelu arian aelodau undeb credyd aeth i'r wal

  • Cyhoeddwyd
Undeb credyd

Mae'r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) wedi gorfod ymyrryd er mwyn amddiffyn aelodau Loans and Savings Abertawe Credit Union Limited ar ôl i'r cwmni fynd i'r wal.

Golygai hyn na all yr undeb ad-dalu blaendaliadau 3,128 o'u haelodau.

Bydd FSCS yn cynnig iawndal i fwyafrif helaeth yr aelodau o fewn wythnos - unai drwy gasglu'r arian yn eu swyddfa bost lleol neu drwy dderbyn siec yn uniongyrchol gan y corff.

Dywedodd Alex Kuczynski, Uwch Swyddog Materion Corfforaethol FSCS eu bod nhw "yma i amddiffyn aelodau".

"Mae FSCS yma i amddiffyn aelodau Loans and Savings Abertawe Credit Union Limited. Mae eich arbediadau wedi eu hamddiffyn hyd at £85,000, a hyd at £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd," meddai.

"Dylwch chi dderbyn eich arian o fewn saith niwrnod. Mae'r broses yn awtomatig hefyd, felly ni fydd raid i chi wneud cais am iawndal."