Cyngor Ceredigion yn ymddiheuro am rannu ffeiliau cyfrinachol
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor wedi ymddiheuro ar ôl i nifer o ffeiliau ac adroddiadau cyfrinachol gael eu cyhoeddi ar eu gwefan.
Sylwyd ar y dogfennau cyfrinachol ar wefan Cyngor Ceredigion ddydd Iau diwethaf, a chafodd y cyfan eu tynnu'n syth o'r wefan erbyn y bore canlynol.
Nid dyma'r tro cyntaf i aelod o'r cyhoedd ddarganfod dogfennau â manylion personol - yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a manylion meddygol - ar wefan y cyngor.
Yn ôl Cyngor Ceredigion mae "ymchwiliad yn cael ei gynnal a mesurau yn cael eu rhoi ar waith i wella'r system".
Roedd y dogfennau dan sylw i'w canfod fel atodiadau i bapurau cabinet y cyngor o gyfarfodydd yn 2004.
Yn eu plith, roedd adroddiadau o drafodaethau rhwng y cyngor ac Ymddiriedolaeth Cadwgan am Gastell Aberteifi, a manylion ynglŷn â phrynu darn o dir lle mae yna bellach swyddfeydd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.
Roedd rhai o'r dogfennau hefyd yn cynnwys manylion personol a sensitif - enwau, cyfeiriadau a chyflyrau meddygol - unigolion oedd yn byw yng Ngheredigion.
Erbyn hyn, nid oes modd gweld unrhyw ddogfennau yn bellach yn ôl na 2007 ar y wefan.
Gwelodd James Davies, sy'n byw yn Borth ger Aberystwyth, y ffeiliau ar y wefan ddydd Iau diwethaf a chysylltu gyda swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Davies ddarganfod a rhoi gwybod i Gyngor Ceredigion bod dogfennau cyfrinachol ar dudalennau cyhoeddus y wefan.
Serch derbyn diolch yn wreiddiol am hysbysu'r cyngor am y dogfennau, cafodd Mr Davies ei arestio am hacio'r wefan.
Treuliodd gyfnod byr mewn cell cyn cael ei ryddhau unwaith i'r heddlu sylweddoli nad oedd wedi gwneud dim byd o'i le.
Yr un peth â 2007
Yn ôl Mr Davies: "Roedd rhai o'r ffeiliau a welais wythnos diwethaf yr un peth â'r rhai a welais yn 2007.
"Dwi'n poeni braidd bod y ffeiliau wedi bod ar gael i'r cyhoedd ers 11 mlynedd."
Dywedodd Mr Davies iddo ddod o hyd i enw a chyfeiriad dynes oedd yn cael ei chamdrin a chyfeiriad plentyn gyda phroblemau ymddygiad.
"Yn 2007, teimlais fod y cyngor yn poeni mwy y byddai 'na risg bod unigolion yn cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn, yn hytrach na meddwl am amddiffyn y bobl fregus dan sylw."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Hoffai'r Cyngor ymddiheuro am y gwall yma.
"Mae ymchwiliad yn parhau i mewn i'r wybodaeth eithriedig yr oedd ar gael ar-lein ac mae mesurau'n cael eu rhoi ar waith i wella'r system."
Maen nhw hefyd wedi datgan eu bod wedi cyfeirio swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth at y digwyddiad o'u gwirfodd.