Lori ar dân yn cau'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
TanFfynhonnell y llun, Dean Richards

Mae disgwyl y bydd un o brif ffyrdd de Cymru ar gau dros nos wedi i lori oedd yn cludo teiars fynd ar dân.

Mae'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad ger Merthyr Tudful ac mae Stad Ddiwydiannol Pant hefyd wedi cau i draffig, yn ôl yr heddlu.

Cafodd pump o griwiau tân eu danfon i'r safle, ynghyd ag injan arbenigol i symud y teiars o'r lori er mwyn i griwiau eraill ddiffodd y fflamau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru iddyn nhw gael eu galw i'r digwyddiad rhwng cylchfan Asda a chylchfan Cefn Coed am tua 16:00.

Ychwanegodd y gwasanaeth bod llawer o fwg yn dod o'r tân, a bod pobl sy'n byw yn lleol yn cael eu cynghori i gau ffenestri a drysau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lori yn cludo teiars

Fe fydd y ffordd yn cael ei harchwilio yng ngolau dydd fore Iau cyn unrhyw benderfyniad i'w hailagor.

Mewn digwyddiad ar wahân, mae damwain yn cynnwys beiciwr modur wedi achosi oedi ar yr A470 yn ardal Merthyr Tudful.

Fe gaeodd yr heddlu y ffordd rhwng cylchdro Abercanaid, ym Merthyr Tudful a chylchdro Abercynon, yn Rhondda Cynon Taf, er mwyn i ambiwlans awyr lanio mewn ymateb i'r ddamwain.