Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn parhau ynghau wedi tân lori

  • Cyhoeddwyd
Teiars ar dân
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lori yn cludo teiars ar hyd yr A465 ddydd Mercher

Bydd un o brif ffyrdd de Cymru yn parhau ynghau tan ddydd Gwener yn dilyn tân mewn lori ddydd Mercher.

Mae'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A470, cylchfan Cefn Coed a chylchfan Dowlais Uchaf.

Roedd y gwasanaethau brys yn delio gyda'r tân mewn lori, oedd yn cludo teiars, tan tua hanner nos.

Cafodd jac codi baw ei alw i'r digwyddiad cyn hynny i'w gwneud yn haws i daclo'r fflamau.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod teiars a dur oedd yn y lori wedi toddi ar arwyneb y ffordd.

Dywedodd llefarydd: "Mae tua 170m o'r ffordd wedi ei ddifetha gan y tân a bydd ein contractwyr yn ail osod y rhan yma heno.

"Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau am 17:00, gyda'r bwriad o orffen erbyn tua 01:00 ddydd Gwener."