Ian Bell yn serennu i Sir Warwick yn erbyn Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ian BellFfynhonnell y llun, Rex Features

Cyrhaeddodd Sir Warwick 445-8 ar ail ddiwrnod eu gornest yn erbyn Morgannwg diolch i ddau ganred gan Ian Bell.

Roedd hynny wedi i'r tîm cartref gael eu bowlio am 203 ar y diwrnod cyntaf ym Mae Colwyn.

Yn ogystal â 204 Bell, llwyddodd Sam Hain i sgorio 61, tra bod Keith Barker ar 43 heb fod allan.

Cymerodd Ruaidhri Smith a Craig Meschede ddwy wiced yr un dros Forgannwg.