Troi blychau ffôn yn fannau gwefru a wi-fi yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
man gwefru

Bydd band eang di-wifr a mannau gwefru ffonau symudol yn cael eu gosod mewn hen flychau ffôn yn Abertawe fel rhan o gynllun newydd.

Bydd y blychau newydd - InLinks - yn cymryd lle hen flychau ffôn BT, ac mae'r cwmni yn dweud y byddan nhw'n cynnig y "wi-fi cyhoeddus am ddim cyflymaf yn y DU", sef 1Gb/eiliad.

Ddydd Gwener, bydd 11 o'r blychau yn gweithio am y tro cyntaf, a'r cynllun yn y pen draw yw gosod 28 o'r blychau ar draws y ddinas.

Abertawe yw'r pumed ddinas yn y DU i fabwysiadu'r cynllun newydd gan ddilyn Llundain, Leeds, Glasgow a Southampton.

Bydd pobl hefyd yn medru gweld mapiau a rhifau o'r llyfr ffôn yn y blychau, yn ogystal â chael mynediad i wasanaethau'r ddinas.

'Rhan o daith' Abertawe

Dywedodd Jessica Tompkinson, o InLinkUK: "Fe fydd y ddinas gyfan mwy neu lai yn mynd i gael wi-fi cyflym iawn BT, ond mae hyn i bawb nid dim ond cwsmeriaid BT.

"Fe fydd pobl yn medru mynd ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd."

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Mae'r cyfan yn rhan o'r daith y mae Abertawe arni o safbwynt adfywio a dyfeisgarwch.

"Byddwn yn gosod ein rhwydweithiau newydd ar draws y ddinas, fel bod gennym ni'r wi-fi cyflymaf yn y DU.

"Fe fyddwn yn le fydd yn profi'r dechnoleg newydd pumed genhedlaeth, ac mae hyn i gyd yn rhan o'r daith ddigidol yr ydym arni."