Dyn yn marw wedi gwrthdrawiad ar yr A55 ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" rhwng car a lori ar yr A55 bore ddydd Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Audi A5 a lori ar y ffordd ymuno sy'n arwain at lôn ddwyreiniol Pont Britannia am 01:50.
Dywedodd yr heddlu bod gyrrwr yr Audi wedi marw yn y fan a'r lle, a'i fod yn dod o Sir Warwick.
Doedd neb arall yn teithio yn y cerbyd.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion Heddlu Warwickshire yn rhoi cefnogeth arbenigol i deulu'r dyn a fu farw.
Cafodd yr A55 ei chau am gyfnod i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y gwrthdrawiad, ond er i'r lôn ailagor mae traffig wedi bod yn drwm yn yr ardal gyda thagfeydd hir ar hyd Lôn Penmynydd i gyfeiriad Porthaethwy.
Dywedodd Mr Williams eu bod yn diolch i'r cyhoedd am fod yn amyneddgar, ond mai dyletswydd pennaf yr heddlu wedi damweiniau difrifol yw ymchwilio'n fanwl i'r amgylchiadau ar ran y crwner a pherthnasau'r unigolion sy'n marw neu'n cael anafiadau sy'n newid eu bywydau.
"Rydym yn gwerthfawrogi fod pobl wedi cael oedi hir ac yn deall yn iawn beth yw effaith cau ffyrdd ar y rhwydwaith drafnidiaeth, ond mae'n rhaid i bobl ddeall bod yna waith i'w wneud wrth ymchwilio i wrthdrawiadau angheuol," meddai.
Dywedodd fod y broses o symud y lori yn un "cymhleth oherwydd natur ei lwyth, ac felly fe gymrodd gyfnod hirach i ailagor y ffordd yn gyfan gwbl. Hoffwn ddiolch i bawb am fod yn amyneddgar tra bo'r ffordd ar gau y bore 'ma."
Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw wybodaeth neu luniau dash-cam all helpu'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.