Rhieni'n erfyn ar ferch, 15, o Bontypridd i ddod adref

  • Cyhoeddwyd
Naomi ReesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi Rees wedi bod ar goll ers pythefnos

Mae rhieni merch 15 oed o Rhondda Cynon Taf sydd wedi bod ar goll ers pythefnos wedi erfyn arni i ddod adref.

Ar hyn o bryd mae'r heddlu yn chwilio ar hyd y DU am Naomi Rees o Rydyfelin ger Pontypridd.

Y gred yw y gallai fod gyda Thomas Baker, sydd yn 20 oed ac yn y dod o Tamworth yn Sir Stafford.

Dywedodd rhieni Naomi, Grace a Peter Rees eu bod yn gobeithio y bydd Mr Baker yn "gwneud y peth iawn" a'i chael hi i ddychwelyd adref.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod Naomi Rees gyda Tomas Baker, 20 oed

"Os yw e'n fachgen teidi bydde fe'n sylwi faint o loes mae hyn yn achosi i'r teulu, a sicrhau ei bod hi'n dod gartref i ni," meddai Mr Rees.

Cafodd y ferch 15 oed ei gweld diwethaf nos Fercher 15 Awst yn cerdded drwy Barc Ynysangharad ym Mhontypridd.

Y gred yw ei bod hi wedi dal trên o orsaf y dref.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grace a Peter Rees wedi erfyn ar eu merch i ddod adref

Ychwanegodd Mr Rees: "Dyw hyn ddim fel Naomi. Mae hi'n ferch ofalgar iawn. Mae hi'n caru pobl ac yn ymddiried ynddyn nhw.

"Ar hyn o bryd dyma yw'r cyfan 'dyn ni'n siarad amdano, rydyn ni'n byw Naomi. Naomi, fel ei dwy chwaer, yw ein byd ni.

"Rydyn ni'n ei charu cymaint. Mae e mor anodd. Rydyn ni eisiau iddi ddod adref."