'Parthau di-alcohol' mewn dwy dref yn Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Poteli a chaniau alcoholFfynhonnell y llun, PA

Bydd rheolau newydd yn dod i rym yn Rhondda Cynon Taf dros y penwythnos yn gwahardd alcohol mewn rhannau o ganol trefi'r sir.

Bwriad y mesur, meddai'r cyngor, yw taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar rai o strydoedd Aberdâr a Phontypridd.

Os oes pobl yn cael eu dal gydag alcohol yn y mannau cyhoeddus hynny, ac yn gwrthod ei roi i swyddogion awdurdodedig, fe allen nhw wynebu dirwy o £100.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis eu bod yn "gwrando ar bryderon trigolion lleol am y materion sydd o bwys iddyn nhw".

Arolwg o drigolion

Fe fydd y 'parthau di-alcohol' newydd yn cynnwys caeau Ynys a'r orsaf drên yn Aberdâr, a pharc Ynysangharad a gorsafoedd trenau a bysus ym Mhontypridd.

Mae'n rhan o ymgyrch ehangach ar draws Rhondda Cynon Taf rhwng yr awdurdod lleol a Heddlu'r De ble bydd swyddogion yn mynd ag alcohol oddi wrth bobl sy'n cael eu hamau o fod yn debygol o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Mr Lewis, aelod cabinet y cyngor dros Gymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol: "Cafodd y rheolau newydd eu cyflwyno gan y cyngor yn dilyn arolwg o drigolion ar drosedd, ble wnaeth tua thraean o bobl ddweud mai alcohol oedd yn cyfrannu fwyaf at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddwy dref."

Ychwanegodd y byddai swyddogion trwyddedig o'r cyngor a'r heddlu yn dechrau gweithredu'r rheolau o 1 Medi fel rhan o'u patrolau dyddiol.