Ystyried parthau di-alcohol yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi dweud y byddan nhw'n ystyried sefydlu parthau di-alcohol ar gyfer gemau rhyngwladol yn y dyfodol.

Cafwyd cwynion yn ystod gemau'r hydref am gefnogwyr meddw yn Stadiwm Principality yn camymddwyn, gan gynnwys honiadau fod dyn anabl wedi'i sarhau.

Ar y pryd dywedodd yr Undeb bod dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i beidio gweini alcohol i bobl feddw yn y stadiwm.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Phillips y bydd y corff rheoli yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno newidiadau erbyn hydref 2018.

'Angen asesu'

Mae disgwyl i'r Undeb asesu'r sefyllfa yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng ngwanwyn 2018 cyn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno'r parthau ai peidio.

"Os oes pethau allwn ni eu gwneud i wella'r profiad i bobl, fe wnawn ni dreialu hynny yn ystod hydref y flwyddyn nesaf," meddai Mr Phillips.

Ychwanegodd fodd bynnag y byddai parthau di-alcohol yn anodd eu gweithredu am nad oedd hi'n bosib "rheoli beth mae pobl yn ei wneud cyn dod i'r stadiwm".

"Os oes gennych chi docyn 'parth di-alcohol' ac mae parti stag yn troi lan sydd ddim yn yfed yn y stadiwm achos maen nhw wedi cael digon yn barod, fyddai hynny ddim yn brofiad grêt i'r cefnogwr," meddai.

"Felly mae'n rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd glyfar."

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae modd yfed alcohol yn yr eisteddle unrhyw bryd wrth wylio gemau

Dywedodd y prif weithredwr hefyd fod pob un o ranbarthau Cymru hefyd wedi mynegi diddordeb yn arwyddo'r asgellwr George North pan fydd yn gadael Northampton ar ddiwedd y tymor.

Y Scarlets fydd â'r dewis cyntaf i'w arwyddo gan mai nhw yw ei gyn-ranbarth, a hynny wedi i North gyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Gymru.

Mynnodd Mr Phillips hefyd na fyddai prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Warren Gatland yn gadael ei swydd cyn Cwpan y Byd 2019, er gwaethaf sôn fod Northampton â diddordeb ei benodi.

Cadarnhaodd hefyd fod Cymru'n gobeithio trefnu gêm yn UDA ym mis Mehefin 2018, cyn iddyn nhw deithio i'r Ariannin ar gyfer dwy gêm brawf.