Diddymu trwydded cwmni bws Gwynedd achos 'risg diogelwch'

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau Huw'sFfynhonnell y llun, Efan Thomas

Mae cwmni o Wynedd wedi ei wahardd rhag rhedeg gwasanaethau bysus wedi i archwilwyr ganfod bod "risg i ddiogelwch ar y ffyrdd".

Mewn gwrandawiad ddydd Gwener dywedodd Comisiynydd Traffig Cymru fod gweithwyr o Tacsi Gwynedd hefyd wedi ceisio "bygwth" staff oedd wedi dod i archwilio cerbydau.

Mae'r gwaharddiad, ddaeth i rym o 23:59 nos Sul 2 Medi, yn golygu nad yw'r cwmni bellach yn gallu rhedeg y gwasanaethau bysus roedden nhw'n eu darparu.

Fe fydd camau hefyd yn cael eu cymryd i wahardd y rheolwr trafnidiaeth, Alan Vaughan Owen, a'r cyfarwyddwyr Sion Edwards a Hugh Edwards.

'Cyflwr anniogel'

Roedd Tacsi Gwynedd yn gweithredu eu bysus dan yr enw Cerbydau Huw's, ac maen nhw hefyd yn rhedeg fflyd o dacsis yn yr ardal.

Ond dywedodd y Comisiynydd Traffig, Nick Jones bod nifer o bryderon wedi codi wedi i archwilwyr y DVSA ymweld â chanolfan y cwmni.

Roedd hynny'n cynnwys ymdrechion i "fygwth" yr archwilwyr, yn ogystal â "honiad ffug" ynglŷn â digwyddiad pan wnaeth dwy olwyn ddisgyn oddi ar fws.

Fe wnaeth y comisiynydd hefyd ganfod mai Mr Owen oedd i fod yn rheolwr trafnidiaeth ar y cwmni, ond fod ganddo mewn gwirionedd waith llawn amser yn Y Fenni yn Sir Fynwy.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni hefyd yn rhedeg gwasanaethau tacsi

"Bydd fy nghanfyddiadau yn dangos bod y rhan fwyaf o gerbydau yn mynd allan mewn cyflwr anniogel," meddai.

"Mae'r cyfuniad o gerbydau sâl, honiadau ffug bwriadol ynglŷn â digwyddiadau, ac ymdrechion bwriadol i fygwth yn golygu na allai ganiatáu i'r bysus barhau i redeg."

Ychwanegodd bod y cwmni wedi colli eu "henw da", ac y byddai'n peri "risg i deithwyr cyhoeddus na ellir ei gyfiawnhau" pe na bai'r gwaharddiad yn dod i rym yn syth.

"Rydw i'n difaru'r anghyfleustra sydd wedi'i achosi i deithwyr cyhoeddus o ganlyniad i'r diffyg rhybudd, ond eu diogelwch nhw yw'r flaenoriaeth," meddai.

"Roedd cwmni Tacsi Gwynedd Cyf (Huw's Coaches) yn gweithredu nifer o gontractau trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Dyffryn Nantlle ac un bws coleg i gludo myfyrwyr i ac o gampws Coleg Llandrillo-Menai yn Llangefni.

"Yn dilyn penderfyniad dydd Gwener diwethaf (31 Awst) gan y Comisiynydd Traffig i ddiddymu trwydded o nos Sul (2 Medi), bu swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda darparwyr bysiau eraill i sicrhau bod gwasanaethau newydd yn eu lle ers y bore yma (3 Medi), gyda'r un amserlen ar gyfer yr holl wasanaethau."