Beirniadu 'diffyg' gwasanaeth bws yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Express Motors buses

Mae methiant i adfer gwasanaeth bws llawn i bentrefi yng Ngwynedd yn "anfoddhaol", yn ôl cynghorydd tre'.

Pan gollodd cwmni Express Motors ei drwydded ym mis Rhagfyr, crebachodd y gwasanaeth i bentrefi ger Porthmadog i bedair taith y diwrnod ac mae'n rhaid rhoi diwrnod o rybudd cyn teithio.

Yn flaenorol, roedd tua 10 bws y dydd rhwng y dref a Borth y Gest a Morfa Bychan.

Am bythefnos dros wyliau'r Pasg, bydd y gwasanaeth am ddim, gan arwain at gyhuddiadau bod ymwelwyr yn cael blaenoriaeth ar draul pobl leol.

Angen bws 'trwy'r flwyddyn'

Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, Simon Brooks, bod "yn rhaid" i wasanaethau cyson ddychwelyd.

"Dydan ni heb seinio fyny i sefyllfa lle fydd na ddim gwasanaethau bws o gwbl yn y pentrefi yma, ag eithrio'r wythnosau pan fo pobl yn dod yma i aros yn eu tai haf neu er mwyn mynd ar eu gwyliau.

"Mae 'na bobl sy'n byw mewn pentrefi fel Borth y Gest - pobl hen, pobl anghennus, pobl ifanc - sydd angen defnyddio bws gydol y flwyddyn.

"A job Gwynedd fel y cyngor sir ydy darparu'r gwasanaeth yna."

Cynnig ystod o wasanaethau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Dros y misoedd diwethaf, mae staff y Cyngor wedi bod yn gwneud popeth posib i sicrhau fod cymaint â phosib o wasanaethau bysiau cyhoeddus ar gael yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddileu trwydded cwmni Express Motors (Penygroes).

"Rydym wedi bod yn gweithio yn agos efo cwmnïau bysiau eraill i sicrhau fod cymaint â phosib o wasanaethau ar gael i drigolion.

"Ond oherwydd prinder gweithredwyr yn yr ardal, mae rhai newidiadau wedi bod i rai gwasanaethau yn y sir.

"Ar gyfer y gwasanaeth 99 (Morfa Bychan - Borth y Gest - Porthmadog), mae'r Cyngor wedi darparu gwasanaeth ar-alw lle mae trigolion lleol yn gallu trefnu trafnidiaeth o flaen llaw ers dechrau'r flwyddyn.

"Fel Cyngor, rydym yn parhau mewn trafodaethau i geisio cael gwasanaeth bws sefydlog i ddarparu'r gwasanaeth yma ar ôl cyfnod y Pasg.

"Yn y cyfamser, er mwyn ceisio ymateb i'r gofyn ychwanegol dros gyfnod y Pasg, mae gwasanaeth bws heb fod 'ar-alw' yn cael ei ddarparu am bythefnos - mae'n rhedeg fel bws gwasanaeth ac yn rhad ac am ddim i deithwyr."