Dim lle yng Nghwpan y Byd i dîm pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru'n dibynnu ar ganlyniadau eraill ar ôl colli i Loegr ddydd Gwener

Ni fydd tîm pêl-droed merched Cymru yng Nghwpan y Byd 2019 ar ôl i ganlyniadau eraill fynd yn eu herbyn ddydd Mawrth.

Roedd y tîm eisoes wedi colli o 3-0 yn erbyn Lloegr nos Wener, pan fyddai buddugoliaeth wedi sicrhau eu bod yn ennill y grwp ac yn cyrraedd y twrnamaint yn Ffrainc.

Roedd hynny'n golygu bod Cymru angen i'r Eidal a'r Weriniaeth Tsiec ennill eu gemau ddydd Mawrth er mwyn cael lle yn y gemau ail gyfle fel un o'r timau gorau i orffen yn ail yn eu grwpiau.

Ond colli wnaeth Yr Eidal o 2-1 yn erbyn Gwlad Belg, tra bod Gwlad yr Ia wedi cael gêm gyfartal o 1-1 gyda'r Weriniaeth Tsiec.

Mae'r canlyniadau'n golygu bod Cymru yn chweched o ran y timau orffennodd yn ail, gyda'r pedwar uchaf yn unig yn cael lle yn y gemau ail gyfle.

Fe lwyddon nhw i ennill pump o'u wyth gêm yn y grŵp rhagbrofol, yn ogystal â sicrhau gemau cyfartal oddi cartref yn erbyn Lloegr a Rwsia.

Yn dilyn diwedd eu hymgyrch, dywedodd y rheolwr Jayne Ludlow ei bod yn gobeithio gweld y tîm merched cenedlaethol yn mynd yn gyfan gwbl broffesiynol o fewn degawd, ac y byddai hynny'n help o ran ceisio cyrraedd cystadlaethau rhyngwladol yn y dyfodol.