'Cyfnod cyffrous' wrth agor ysgol Gymraeg yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Caer ElenFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro

Mae'n gyfnod cyffrous i addysg cyfrwng Gymraeg yn Sir Benfro, yn ôl pennaeth ysgol newydd yn Hwlffordd fydd agor ei drysau am y tro cyntaf ddydd Iau.

Bydd Ysgol Caer Elen yn darparu addysg i blant rhwng tair ac 16 oed.

Ar gost o £28.1m i'w hadeiladu, mae'n cymryd lle hen ysgol gynradd Glan Cleddau, yn ogystal â darparu addysg Gymraeg i blant rhwng 11 ac 16 oed yng nghanol y sir am y tro cyntaf.

"Mae sefydlu Ysgol Caer Elen yn ddathliad o lwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir," meddai'r pennaeth, Mike Davies.

"Ein nod yw datblygu ysgol 3-16 oed arloesol fydd yn darparu addysg cyfrwng Gymraeg o'r radd flaenaf mewn partneriaeth â'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, ac Ysgol y Preseli.

Enw brenhines

Ychwanegodd Mr Davies: "Un o gryfderau mawr ein hysgol fydd yr ethos gofalgar, agored a hapus lle gall disgyblion deimlo'n gartrefol a mwynhau eu haddysg mewn awyrgylch cyfan gwbl Gymraeg.

"Un o'n prif amcanion fydd gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus ac rydym yn hyderus y bydd ein disgyblion yn falch o'u hysgol newydd, yn falch o'u Cymreictod a'u dwyieithrwydd."

Bydd lle i 600 o ddisgyblion uwchradd, 315 o ddisgyblion cynradd, a 45 lle babanod yn Ysgol Caer Elen, yn ogystal â 24 lle ar gyfer plant y Cylch Meithrin lleol.

Bydd addysg ôl-16 yn parhau i gael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych.

Mae'r ysgol wedi ei henwi ar ôl yr enw gwreiddiol ar Hwlffordd.

Yn ôl yr hanes, roedd Elen yn Gymraes, yn frenhines ac yn byw yn yr ardal.

Roedd hi'n briod â Macsen Wledig, ac fe enwodd y dref yn Gaer Elen ar ei hôl.