Paul Davies yw arweinydd newydd Ceidwadwyr y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Paul Davies yw arweinydd newydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Roedd aelod Preseli Penfro'n drech na'r aelod dros ranbarth Gorllewin De Cymru, Suzy Davies, yn y ras i olynu Andrew RT Davies a ildiodd yr awenau ym mis Mehefin.
Yn ei gyfweliad cyntaf, dywedodd mai'r flaenoriaeth iddo nawr yw "ennill cymaint o seddi ag sy'n bosib yn etholiadau'r Cynulliad yn 2021".
Cafodd ei ddewis yn dilyn pleidlais o aelodau'r blaid, gyda'r canlyniad wedi ei gyhoeddi yng nghwrs rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Mr Davies 68.1% o'r bleidlais, gyda 52% o aelodau wedi pleidleisio.
Mae Mr Davies wedi bod yn arwain y blaid dros dro ers ymddiswyddiad Andrew RT Davies.
Yn ei gyfweliadau cyntaf wedi'r fuddugoliaeth, dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru mai'r flaenoriaeth iddo nawr fydd sicrhau bod aelodau Ceidwadol Cymru'n dod at ei gilydd "er mwyn ennill cymaint o seddi ag sy'n bosib yn etholiadau'r Cynulliad yn 2021".
"Mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n datblygu polisïau sy'n berthnasol i bobl Cymru. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwaith da ry' ni wedi ei wneud dros y chwech i ddeuddeg mis diwethaf," meddai.
Ar gwestiwn clymbleidio gyda phleidiau eraill, dywedodd: "Os bydda i'n credu bod y glymblaid yn ffordd ymlaen, bydda i'n trio gwerthu hynna i'n haelodau a'u perswadio nhw mai dyna'r peth gorau i'w wneud i bobl Cymru."
A gyda thrafodaethau Brexit yn parhau, mynnodd y bydd llais Ceidwadwyr Cymru'n cael ei glywed drwyddo ef, er nad yw hi'n glir pwy yw arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru: "Bydd y Prif Weinidog yn cael trafodaethau gydag Alun Cairns a gyda finne, a licen i gredu y bydd Alun Cairns a fi'n cytuno ar nifer o bethau, ond mae e'n bwysig ein bod ni'n egluro pwy yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
"Dwi wedi gwneud hynna'n eitha clir yn ystod yr ymgyrch yma, a dwi'n ffyddiog y byddwn ni'n cael y ddadl a'r drafodaeth yna o fewn y blaid yn ystod y misoedd nesaf."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gyda'r cyntaf i'w longyfarch oedd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Rwyf wedi gweithio gyda Paul dros y blynyddoedd, ac rwyf wedi fy nghyffroi gyda'i frwdfrydedd, ei syniadau a'r cydweithio agos y bydd e'n ei gyflwyno i'r rôl.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda Paul wrth ddal llywodraeth fethiannus Llafur Cymru i gyfri'... ond yn bwysicach, wrth sicrhau fod y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan yn parhau i weithio dros Gymru gyfan."
Wrth longyfarch Mr Davies, ategodd y Prif Weinidog Theresa May sylwadau Mr Cairns o bwysigrwydd herio Llwyodraeth Lafur Cymru: "Does dim amser pwysicach wedi bod i wneud hyn, a dwi'n gwybod y bydd Paul yn wych wrth siarad ar ran pobl Cymru."
Gwadu bod yn 'llwyd'
Wedi ei eni ym 1969, cafodd Paul Davies ei fagu ym Mhont-sian yng Ngheredigion.
Mynychodd Ysgol Ramadeg Llandysul ac Ysgol Gyfun Castellnewydd Emlyn.
Am 20 mlynedd fe weithiodd Mr Davies i fanc cyn cael ei ethol i'r Cynulliad yn 2007, wedi'r ail ymdrech.
Methodd hefyd â chael ei ethol i San Steffan fel yr aelod dros Geredigion ar ddau achlysur.
Wedi ei ddisgrifio fel pâr saff o ddwylo gan rai, ac fel "dyn mewn siwt beige" gan eraill, cafodd Mr Davies ei benodi'n Ddirprwy Arweinydd ar garfan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad yn 2011.
Daliodd ei afael ar y rôl nes iddo gymryd yr awenau oddi ar Andrew RT Davies dros dro.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion, doedd Paul Davies ddim yn un am wneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol - doedd ganddo ddim cyfrif Twitter nes cychwyn ar ei ymgyrch arweinyddol.
Ond mewn cyfweliad diweddar wfftiodd honiadau ei fod yn wleidydd "llwyd".
Mae Mr Davies wedi dweud y byddai'n ystyried gweithio gyda Phlaid Cymru i ffurfio llywodraeth ond y byddai'n rhoi pleidlais hefyd i aelodau'r Ceidwadwyr allu cymeradwyo unrhyw gytundeb clymbleidio yn y dyfodol.
Fe bleidleisiodd Paul Davies dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ond mae'n dweud ei fod yn derbyn y canlyniad ac yn anghytuno gyda galwadau am bleidlais arall.
Mae'r siaradwr Cymraeg yn byw yng ngogledd Sir Benfro gyda'i wraig Julie. Priododd y ddau yn 2006.
Y tu hwnt i wleidyddiaeth mae diddordebau Paul Davies yn cynnwys rygbi, darllen ac ymweld ag atyniadau hanesyddol.