Dyn wedi marw ar ei barti stag 'ar ôl taro'i ben'

  • Cyhoeddwyd
ben davies ac emily russFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies gyda'i ddyweddi Emily Russ

Mae cwest wedi clywed fod dyn o Gaerdydd wedi marw ar ei barti stag yng ngwlad Groeg ar ôl disgyn allan o dacsi a tharo'i ben.

Roedd Ben Davies, 32, wedi teithio i ynys Mykonos dim ond tair wythnos cyn ei briodas pan ddigwyddodd y ddamwain.

Clywodd cwest i'w farwolaeth ei fod wedi disgyn ger ei westy ar ôl "dod allan o dacsi".

Roedd Mr Davies yn gweithio ar y pryd fel dirprwy bennaeth staff grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

'Dyn disglair'

Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod Mr Davies wedi ei ruthro i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn y digwyddiad ym mis Mehefin llynedd.

Ar ôl cael ei drin ar yr ynys cafodd ei gludo i ysbyty arall ar y tir mawr ger Athen, ble wnaeth ei ddyweddi Emily Russ hedfan allan ato.

Ond er gwaethaf ymdrechion i'w achub, bu farw o'i anafiadau ar 3 Gorffennaf.

Roedd Mr Davies a Miss Russ, 31, newydd brynu tŷ yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu bywyd priodasol.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwpl i fod i briodi tair wythnos ar ôl parti stag Mr Davies

Yn gyn-fyfyriwr ym mhrifysgolion LSE a Rhydychen, bu Mr Davies yn gweithio i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod ymgyrch 2010.

Yn nes ymlaen bu'n gwirfoddoli dros y Ceidwadwyr yn Llundain cyn cael swydd gyda'r blaid ym Mae Caerdydd.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd y cynghorydd Ceidwadol o Gaerdydd, Jayne Cowan fod Mr Davies yn "ddisglair a llafar" a bod ganddo "synnwyr digrifwch cyfareddol".

Fe wnaeth y crwner Graeme Hughes gofnodi dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.