Galw am gamau newydd i leihau marwolaethau ar y ffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Diogelwch ffyrdd

Mae rhieni menyw 21 oed a gafodd ei lladd mewn damwain ffordd yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i wneud mwy i atal gwrthdrawiadau traffig angheuol.

Bu farw Rhiannon Smith mewn gwrthdrawiad car ger Llandifog yng Nghasnewydd y llynedd, ac mae ei rhieni, Julian a Gill Smith wedi creu sefydliad yn ei henw er mwyn ymgyrchu am well diogelwch ffyrdd,

Ar drothwy cynhadledd maen nhw wedi ei drefnu yng Nghasnewydd ddydd Gwener, dywedodd Mr Smith nad yw gyrwyr ifanc, yn enwedig, yn ymwybodol o'r loes mae colli rhywun mewn damwain yn ei achosi.

Yn ôl y ddwy lywodraeth, mae cynnydd wedi bod yn yr ymdrechion i atal marwolaethau ond mwy o waith eto i'w wneud.

'Codi ymwybyddiaeth'

Dywedodd Mr Smith: "Yn y gorffennol, mae 'na ystyriaeth wedi bod i geisio cyrraedd targed o ddim marwolaethau o gwbl, ond ychydig o sôn sydd wedi bod am hynny'n ddiweddar," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, ond hefyd ymhlith llywodraethau i fynd i'r afael â'r materion hyn."

Roedd Rhiannon Smith o Lanfarthin yn hyfforddi i fod yn athrawes, ac fe gafodd ei ladd wrth geisio troi ei char ar yr A48 rhwng Casnewydd a Chas-gwent, Sir Fynwy.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhiannon Smith yn hyfforddi i fod yn athrawes cyn ei marwolaeth y llynedd

Yn 2017, fe wnaeth heddluoedd Cymru gofnodi 4,556 o ddamweiniau ffordd lle gafodd rhywun anaf - 7.4% yn llai nag yn 2016.

Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 103 o bobl eu lladd ar ffyrdd Cymru - yr un nifer ag yn 2016 - ac fe gafodd 961 o bobl eu hanafu'n ddifrifol, sef gostyngiad o 43.

Bydd yna alw yn ystod cynhadledd ddydd Gwener am fwy o gynlluniau arafu cyflymder, rhagor o brofion diogelwch a thîm arbenigol i ymchwilio i wrthdrawiadau - cam y mae AS Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden eisoes wedi galw amdano yn San Steffan.

Mae camau posib eraill yn cynnwys addysgu plant trwy gemau technoleg rithwir a llwybrau diogel ar gyfer cerddwyr a seiclwyr

'Cynnydd da'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod targedau wedi eu gosod ers 2013, pan gyhoeddwyd Rhwydwaith Diogelwch Ffyrdd Cymru

Yn ôl y llefarydd fe wnaeth y llywodraeth "gynnydd da tuag at y targedau" yn 2017 o ran gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.

Roedd y gostyngiad yn 24.3% o'i gymharu â'r data sylfaenol yn y cyfnod 2004-08, a 40.7% yn nifer yr achosion cyfatebol ymhlith pobl ifanc yn yr un cyfnod.

Dywedodd y llefarydd: "Mae mwy o waith eto i'w wneud a byddwn yn parhau i annog cynlluniau diogelwch ffordd ar draws Cymru."

Mewn ymateb ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, dywedodd llefarydd fod nifer y marwolaethau ar y ffyrdd wedi gostwng 44% dros y 10 mlynedd diwethaf ond eu bod "yn benderfynol o wneud mwy".

Ychwanegodd eu bod yn cydweithio'n agos gyda grwpiau diogelwch ffordd "i ddatblygu cynigion synhwyrol sy'n cael cydbwysedd rhwng cosbau llymach ar gyfer gyrwyr peryglus a chymorth i ddefnyddwyr y ffyrdd gadw'n ddiogel."

Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn Sweden a'r DU mae ffyrdd mwyaf diogel Ewrop.