AC yn galw am wladoli gwasanaethau bws yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Sian Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sian Gwenllian AC nid yw defnyddwyr bysiau yn ei hetholaeth yn Arfon "yn cael tegwch ar hyn o bryd."

Mae AC Plaid Cymru yn galw am wladoli gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig.

Yn ôl Sian Gwenllian, dyw defnyddwyr bysiau yn ei hetholaeth yn Arfon ddim yn cael tegwch ar hyn o bryd.

Mae pryder wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol y gwasanaeth bws rhwng Llanberis a Chaernarfon ers i gwmni bysiau Arriva gadarnhau bydd y gwasanaeth rhif 88 yn dod i ben ar 23 Medi.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, maen nhw mewn trafodaethau i ddatrys y sefyllfa.

Mae Arriva wedi ymddiheuro am y newid, gan ddweud bod y penderfyniad oherwydd nifer isel y teithwyr.

'Anoddach fyth'

Dywedodd Sian Gwenllian bod pobl yn ei hetholaeth yn dibynnu ar y bysiau i gyrraedd eu gwaith a gwasanaethau angenrheidiol.

Wrth gael ei holi ar raglen y Post Cyntaf Radio Cymru dywedodd fod "argyfwng yn wynebu ardaloedd gwledig o safbwynt bysus".

"Mae problemau dwfn sy'n mynd yn ôl flynyddoedd ac mae'r rhain mynd yn waeth wrth i doriadau effeithio ar lywodraeth leol.

"Rydym wedi gweld sawl problem wrth i wasanaethau gael eu colli a dwi'n ddiolchgar i swyddogion Cyngor Gwynedd am geisio canfod cwmni newydd, ond dyw hyn ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir."

Mae hi o'r farn y dylai llywodraeth leol gael yr hawl i sefydlu cwmnïau preifat neu wasanaethau hyd braich - fyddai angen arian oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dywedodd hefyd y dylai cwmnïau gael eu gorfodi i dendro am "wasanaethau ar gyfer ardaloedd penodol lle mae yna broblemau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Aeron Jones yn galw ar Gyngor Gwynedd i gymryd cyfrifoldeb dros redeg gwasanaethau bws yn y sir

Un arall sydd wedi lleisio pryder yw'r Cynghorydd Aeron Jones, sy'n cynrychioli Llanwnda ar Gyngor Gwynedd.

Mae Mr Jones yn galw ar y cyngor i gymryd cyfrifoldeb dros redeg y gwasanaethau bysiau yn y sir yn hytrach na chynnig cytundebau i gwmnïau gwahanol.

"Dwi'n meddwl mai'r ffordd ymlaen yw i Gyngor Gwynedd redeg y gwasanaethau cyhoeddus eu hunain.

"Yr oll sydd ei angen yw rheolwr fflŷd oddi mewn i Gyngor Gwynedd.

"Wrth iddyn nhw redeg o'i hunain maen nhw'n cael gwell rheolaeth ohono a hefyd rydych yn tynnu'r elfen o elw sy'n golygu fod trethdalwyr Gwynedd yn cael gwerth am arian."

Ymddiheuro am anghyfleustra

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "cynnal gwasanaethau bysiau eu hunain wedi bod dan ystyriaeth ers peth amser a bydd ystyriaeth fwy manwl yn cael ei roi i'r mater yn y dyfodol".

Dywedodd llefarydd ar ran Arriva: "Ar ôl cryn ystyriaeth, fe allwn gadarnhau fod Arriva wedi penderfynu atal gwasanaeth bws 88 o 23 Medi a hynny oherwydd nifer isel y teithwyr.

"Ond fe fydd y gwasanaeth dydd Sul yn parhau i weithio fel yr arfer.

"Hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ac rydym am dawelu ofnau teithwyr nad ydym yn edrych ar newid gwasanaethau bws 83 ac 89."