Cyfradd diweithdra Cymru yn gostwng i 3.8%
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddara'n dangos fod y gyfradd ddiweithdra wedi gostwng unwaith eto yng Nghymru.
Dangosodd ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 3.8% o bobl Cymru, sy'n gymwys i weithio, yn ddiwaith rhwng Mai a Gorffennaf 2018.
Mae hynny'n ostyngiad o 0.6 pwynt canran o'i gymharu â'r cyfnod rhwng Chwefror ac Ebrill.
Mae hefyd yn is na'r cyfradd drwy'r Deyrnas Unedig am yr un cyfnod - sef 4%.
Mae 51,000 yn fwy o bobl mewn gwaith o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2017.