Apêl arall i ferch ar goll wrth iddi droi'n 16 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch o dde Cymru sydd ar goll wedi defnyddio achlysur ei phen-blwydd yn 16 i apelio eto arni i ddod adref.
Mae Naomi Rees o Rydyfelin ger Pontypridd wedi bod ar goll ers 15 Awst, a'r gred yw y gallai hi fod yn ardal Sir Stafford neu orllewin canolbarth Lloegr.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw dal yn credu ei bod hi gyda Tomas Baker, sy'n 20 oed ac yn dod o Tamworth.
"Naomi, wnaethon ni fyth dychmygu y bydden ni'n treulio dy ben-blwydd yn 16 fel hyn - ddim yn gwybod ble wyt ti neu os wyt ti'n saff," meddai ei mam, Grace Rees.
"Rydyn ni'n gwybod dy fod yn poeni ac fe allwn ni ond gymryd nad wyt ti'n ymwybodol o'n negeseuon neu nad wyt ti'n cael y cyfle i gysylltu.
"Mae peidio gwybod lle a sut wyt ti yn ein lladd ni. Fyddwn ni ddim yn gorffwys nes dy fod ti'n saff adref, ac rydyn ni'n dy garu mwy na all geiriau ddisgrifio. Plîs Naomi, cysyllta."
Cafodd y ferch ei gweld diwethaf nos Fercher 15 Awst yn cerdded drwy Barc Ynysangharad ym Mhontypridd, a'r gred yw ei bod hi wedi dal trên o orsaf y dref.
Yn y cyfamser mae mam Tomas hefyd wedi rhyddhau apêl yn dweud bod ei deulu'n "poeni", a gofyn i'w mab "wneud y peth iawn".
"Os wyt ti gydag unrhyw un ddylet ti ddim fod gyda, plîs cer â nhw i'r orsaf heddlu agosaf, neu gwna'r peth iawn fel y dyn da wyt ti Tom - dwed wrthyn nhw wneud y peth iawn a chysylltu gyda phwy sydd angen iddyn nhw wneud," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2018