Merch, 16, oedd ar goll ers mis wedi'i chanfod yn saff

  • Cyhoeddwyd
Naomi ReesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Naomi Rees ar goll ar 15 Awst

Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod wedi dod o hyd i ferch o Rondda Cynon Taf sydd wedi bod ar goll o'i chartref ers bron i fis.

Dywedodd y llu eu bod wedi dod o hyd i Naomi Rees, 16, yn Solihull yng ngorllewin canolbarth Lloegr nos Fawrth.

Mae dyn 20 oed bellach wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'i diflaniad, ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.

Dywedodd teulu Naomi Rees, sydd bellach wedi dychwelyd i dde Cymru, eu bod yn ddiolchgar iawn i bawb oedd wedi helpu i chwilio amdani.

Fe aeth Naomi, o Rydyfelin ger Pontypridd, ar goll ar 15 Awst ar ôl cael ei gweld yn cerdded drwy Barc Ynysangharad ym Mhontypridd.

Ar y pryd dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n credu ei bod hi gyda dyn.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth teulu Naomi gyhoeddi apêl arall yn galw arni i ddychwelyd adref, a hynny ar achlysur ei phen-blwydd yn 16 oed.

"Mae peidio gwybod lle a sut wyt ti yn ein lladd ni. Fyddwn ni ddim yn gorffwys nes dy fod ti'n saff adref, ac rydyn ni'n dy garu mwy na all geiriau ddisgrifio," meddai ei mam, Grace Rees.