Morgannwg yn osgoi colled gyda batio cryf van der Gugten
- Cyhoeddwyd
Mae batwyr Morgannwg wedi sicrhau bod eu gêm yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd yn mynd i'r diwrnod olaf gydag amddiffyn cryf.
Gorffennodd y tîm cartref ar 235 am 9 ddydd Mercher, gyda mantais o 18 rhediad dros Sir Gaerloyw ac un wiced yn weddill.
Ar un adeg, roedd yn edrych fel y byddai bowlio gwych Craig Miles (4-47) yn sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr, ond llwyddodd batio cadarn Timm van der Gugten (58*) i gadw gobeithion Morgannwg yn fyw am y tro.
Cafodd gymorth gan Ruaidhri Smith (34) a Kieran Bull (30), ond mae'r fantais i gyd gan Sir Gaerloyw ar y diwrnod olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018