Sicrhau lle canolog i'r celfyddydau ym mywyd y genedl

  • Cyhoeddwyd
cyngor y celfyddydauFfynhonnell y llun, cyngor y celfyddydau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am "sicrhau bod y celfyddydau'n ganolog i fywyd a llesiant y genedl", wrth iddynt lansio eu cynllun corfforaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Dwy flaenoriaeth sydd gan y cynllun sef hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn ehangu i bob cymuned yng Nghymru, a chryfhau gallu a gwydnwch y sector i helpu doniau creadigol ffynnu.

Yn ôl y Cyngor, bydd ymrwymo i'r rhain yn galluogi iddynt "weithio'n fwy effeithiol, a chydweithio'n fwy dychmyglon â phartneriaid o'r un meddylfryd ledled Cymru".

Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor, fod y corff yn "ymrwymedig i ragoriaeth a chefnogi celfyddyd bryfoclyd, arloesol a dewr".

'Haws dweud na gwneud'

Ychwanegodd Mr George y bydd cyflawni hyn yn haws "dweud na gwneud", gan fod "gormod o bobl yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fwynhau'r celfyddydau neu gymryd rhan neu weithio ynddynt,"

"Credwn fod cael profiadau celfyddydol a mynegi'r dychymyg er mwyn gwella bywyd yn hanfodol i gymdeithas iach a deinamig ac felly dylent fod ar gael i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Phil George yw cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Camau i sicrhau lle canolog i'r celfyddydau:

  • Darparu arian a chefnogaeth i annog gwydnwch ymhlith artistiaid a sefydliadau celfyddydol

  • Cynyddu'r buddsoddiad yng ngwaith creadigol artistiaid duon, Asiaidd ac ethnig, pobl anabl a'r rheini sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Ymgyrchu dros gael rhagor o amrywiaeth yng ngweithlu'r celfyddydau

  • Ymestyn eu gwaith gyda phlant a phobl ifainc

  • Cael y gorau o'r cyfleoedd o weithio'n rhyngwladol

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Nick Capaldi ei benodi'n Brif Weithredwr Cymgor Celfyddydau Cymru yn 2008

'Chwalu'r myth'

Yn ôl Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, mae'r cyngor wedi "gweithio'n galed i chwalu'r myth mai dim ond lleiafrif bach sy'n cael gwerth a manteision o'r celfyddydau".

"Ond dengys y dystiolaeth, er gwaethaf rhywfaint o lwyddiant, na wnawn ddigon o hyd i gyrraedd y nod," meddai.

Ychwanegodd: "Bydd dymchwel y rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yn un o'n prif flaenoriaethau dros gyfnod y cynllun, yn ogystal â pharhau i hyrwyddo rhagoriaeth ac annog cynhyrchu'r gorau yn ein celfyddydau".