Sean Edwards i gynrychioli Cymru yng ngŵyl Biennale

  • Cyhoeddwyd
Sean EdwardsFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sean Edwards yn adnabyddus fel cerflunydd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi mai Sean Edwards fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Gelfyddydau Biennale Fenis yn 2019.

Er i Sean Edwards fod yn fwy adnabyddus fel cerflunydd, mae ei waith hefyd yn cynnwys elfennau o ffilm, fideo, ffotograffau, llyfrau a pherfformiad.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd cyn graddio o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ac ar ôl mynd ymlaen i astudio yn Ysgol Gelf Gain Slade daeth yn ôl i Gymru yn 2005.

Mae bellach yn ddarlithydd Celf Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Bydd yr ŵyl yn Fenis, sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd, yn dechrau 11 Mai ac yn para tan 24 Tachwedd 2019.

Yn 2014 enillodd y fedal aur mewn celfyddyd gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar gyfer Cymru yn Fenis 2019, bydd Sean Edwards yn cydweithio gyda'r curadur rhyngwladol, Marie-Anne McQuay.

Yr arddangosfa hon fydd ei fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn.

Bydd ei waith yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn bywyd bob dydd, gyda'i brofiadau ei hun o gael ei fagu ar stad gyngor ar gyrion Caerdydd yn y 1980au hefyd yn dylanwadu ar ei waith.

Wrth ymateb i gael ei ddewis ar gyfer y Biennale, dywedodd: "Rwy'n falch iawn o gael fy newis i gynrychioli Cymru yn Fenis.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm rhagorol yn Nhŷ Pawb, y cynhyrchydd annibynnol Louise Hobson a chyda'r curadur Marie-Anne McQuay. Mae cael y cyfle i lunio arddangosfa fel a gynigiais yn un peth ond mae cael gwneud hyn dan faner Cymru yn Fenis yn gyfle anhygoel."

Dywedodd Marie-Anne McQuay ei bod yn falch o gael gweithio gyda'r artist unwaith eto.

"Ar ôl fy mherthynas guradurol hir a chynhyrchiol â Sean yn Bluecoat, canolfan Lerpwl i'r celfyddydau cyfoes, a chyn hynny yn Spike Island, Bryste, rwy'n falch iawn o gael gweithio gydag ef eto, yn enwedig ar rywbeth mor uchel ei fri â Chymru yn Fenis 2019.

'Cymru ar y map'

Ychwanegodd y bydd ei waith yn "ymgysylltu â'r byd cyfoes yn gelfydd iawn".

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru y bydd Sean Edwards yn rhoi "Cymru yn gadarn ar y map yn y digwyddiad rhyngwladol hollbwysig hwn".

"Bydd ei ffordd unigryw o weithio yn cynnig profociadau sy'n gysylltiedig â themâu sy'n bwysig iddo ef ond a gysyllta ag unigolion a chymunedau ledled Cymru a'r byd."

Mae arddangosfa Cymru yn cael ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru.