Cyflogau Cymru yn eu hunfan ers cwmp ariannol 2008
- Cyhoeddwyd

Staff y cwmni ariannol Lehman Brothers yn gadael y gweithle wedi cwymp y busnes
Mae safonau byw yng Nghymru yn araf i ddychwelyd i lefelau 2008 cyn i gwymp y cwmni ariannol Lehman Brothers sbarduno trafferthion ariannol ar draws y byd, yn ôl arbenigwr busnes.
Mae'n union 10 mlynedd y penwythnos hwn ers dechrau'r argyfwng economaidd ac mae gwaith ymchwil BBC Cymru'n awgrymu mai ond ychydig dros 1% o gynnydd sydd wedi bod mewn incwm teuluoedd yng Nghymru ar gyfartaledd.
Dyna'r cynnydd isaf y tu allan i Lundain a de ddwyrain Lloegr, ac mae effaith o hyd hefyd ar brisiau tai gyda chynnydd o 21% - eto, yr ail isaf trwy'r DU y tu ôl i ogledd ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr y corff busnes CBI yng Nghymru, fod Cymru heb ei tharo yn yr un ffordd â Llundain ar gychwyn yr argyfwng, gan nad oes sector ariannol mawr yma, ond mae wedi bod yn anoddach i sicrhau lefelau twf blaenorol yma i'r hyn oeddyn nhw cyn Medi 2008.
Cyflogau heb dyfu
Fe wnaeth twf sector busnes Cymru "arafu am ddwy neu dair blynedd" ac mae bellach yn y "sefyllfa orau" ers y cwymp erbyn hyn, yn ôl Mr Price, ond mae'n cydnabod efallai nad ydy pethau ddim cystal i weithwyr unigol.
"Dyw cyflogau heb dyfu ar yr un lefel â'r cyfnod cyn 2008," meddai. "Mae cynnydd mewn cyflogau wedi aros yn yr unfan.
£20,900 yw'r incwm cyfartaledd y cartref yng Nghymru - 1.1% yn uwch na cyn Medi 2008.

Roedd Len Wilding, 60, yn gweithio yn ffatri Hoover ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, a gaeodd yn 2009. Mae bellach yn gyrru bysus, ac yn dweud nad ydy ei gyflog wedi newid llawer mewn degawd.
"Ro'n i'n cael cyflog derbyniol, rhwng £200 £300 yr wythnos ar y pryd," meddai. "Er roeddach chi'n cael tâl diswyddo, doedd hwnnw ddim am bara'n hir."
"Roeddach chi'n nofio neu'n suddo... mae 'mhen yn dal uwchben y dŵr.
"'Sa i'n credu bod Merthyr Tudful wedi adennill tir. Sdim cynhyrchu. 'Sdim byd yn cael ei gynhyrchu yn y dref. Roedd colli 400 o swyddi fel'na yn ergyd fawr i'r dref... mae fel cau'r pyllau glo, Mae'n taro pib cymuned."

Mae Len Wilding yn poeni am effaith hir dymor cau ffatri Hoover ar Ferthyr Tudful
Mae Sarah, 36, o Wynedd, yn defnyddio banciau bwyd yn rheolaidd ac yn dweud ei bod yn cael trafferth talu biliau ers blynyddoedd.
"Mae'n giami pan 'da chi'n gorfod godyn wrth bobol arm fwyd... ac yn dal i stryglo ar ôl cael yr help... mae'n galed.
"Mae'n teimlo fel bod petha'n mynd yn waeth, efo gymaint o bobol yn yr un sefyllfa a pawb mewn dyled . Dydw i ddim yn gweld petha'n gwella."

21% yw'r cynnydd ym mhrisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru ers 2008 o'i gymharu â 32% ar draws y DU a 50% yn Llundain.

Mae'r cynnydd mewn llefydd fel Caerdydd a Sir Fynwy'n agosach at gyfartaledd y DU, ond mae'r cynnydd ond yn 9% mewn 10 mlynedd mewn llefydd fel Gwynedd a Sir Benfro.
Dywedodd Lucian Cook, pennaeth ymchwil gyda'r gwerthwr tai, Savill: "Cymru oedd un o'r farchnadoedd cyntaf i simsanu, hyd yn oed cyn cwymp Lehman, ac mae wedi bod yn un o'r marchnadoedd arafach i amlygu gwelliant.
Ychwanegodd mai'r patrwm arferol yw i newidiadau ariannol effeithio ar Lundain yn gyntaf gan ledu maes o law i lefydd fel Cymru.