Storm Helene yn cyrraedd Cymru yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn

Gallai storm fawr daro Cymru yn gynt na'r disgwyl ond dywed y Swyddfa Dywydd na fydd y tywydd garw mor ddrwg â'r hyn oedd yn cael ei dybio gyntaf.

Fe fydd Storm Helene yn cyrraedd nos Lun gyda rhybudd melyn "byddwch yn barod".

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan o 21:00 nos Lun, gan bara tan 18:00 ddydd Mawrth.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd cryfion iawn beri risg o anafiadau, ac y gallai achosi oedi i deithwyr.

Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd cyflymder o rhwng 40mya a 50mya, gyda rhai hyd yn oed yn cyrraedd 60mya ar eu hanterth.