Yr hyfforddwr bocsio, Enzo Calzaghe wedi marw yn 69 oed
- Cyhoeddwyd
Mae tad a chyn-hyfforddwr y pencampwr bocsio Joe Calzaghe, Enzo, wedi marw yn 69 oed.
Enzo Calzaghe oedd yn hyfforddi Joe wrth iddo gipio pencampwriaeth y byd mewn dau gategori pwysau gwahanol, mewn gyrfa ddiguro o 46 gornest.
Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad cyn hyfforddi ei fab, fe wnaeth Enzo hefyd lwyddo i sicrhau pencampwriaethau'r byd i Gavin Rees ac Enzo Maccarinelli.
Yn 2007, cafodd Enzo Calzaghe wobrau hyfforddwr y flwyddyn gan BBC Sport a'r cylchgrawn bocsio, Ring Magazine.
Mewn datganiad dywedodd y teulu Calzaghe eu bod wedi eu "llorio" wrth gadarnhau marwolaeth "ein hannwyl Enzo".
"Hoffai Joe a gweddill y teulu Calzaghe ddiolch i'r cyhoedd am eu dymuniadau da, yn enwedig y llif o gefnogaeth o'r gymuned focsio," meddai'r teulu
"Fe wnaeth Enzo fyw bywyd anghredadwy y tu mewn a thu allan i'r gampfa ac mae ei golled yn ergyd i'r teulu cyfan."
Roedd ei deulu wedi cadarnhau ei fod yn ddifrifol wael yn yr ysbyty nos Wener, ond wedi gwadu adroddiadau ar wefannau cymdeithasol ei fod eisoes wedi marw.