Rhybudd melyn am wyntoedd cryf i'r gogledd orllewin

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd MercherFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae rhybudd tywydd am wyntoedd cryf mewn grym dros rannau o Gymru ddydd Mercher wrth i hyrddiadau o 74mya daro'r gogledd.

Roedd disgwyl gwyntoedd ddydd Mawrth yn sgil Storm Helene, ond fe wnaeth y Swyddfa Dywydd dynnu'r rhybudd yn ôl.

Mae'r rhybudd melyn newydd mewn grym yng ngogledd orllewin Cymru o 06:00 tan 22:00.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd o hyd at 70mya effeithio ar deithwyr, achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau trydan.

Mae cwmni Irish Ferries wedi canslo teithiau rhwng Caergybi a Dulyn fore Mercher.

Roedd Pont Britannia ar yr A55 ar gau i rai cerbydau am gyfnod oherwydd y gwyntoedd cryfion, ond mae bellach wedi ailagor gyda chyfyngiad cyflymder.

Mae cyfyngiadau hefyd i'r ddau gyfeiriad ar yr M48 Hen Bont Hafren, a chyfyngiad cyflymder ar Bont Llansawel ar yr M4.

Mae yna rybudd melyn arall am law "parhaus a thrwm" ar gyfer mwyafrif y wlad ddydd Iau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw effeithio ar deithwyr yn ystod cyfnod y rhybudd, sydd rhwng 04:00 a 22:00.