Pencampwriaeth y Siroedd: Morgannwg allan am 186

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Matt Henry i gipio pedwar o wicedi Morgannwg

Fe gafodd batwyr Morgannwg eu bowlio allan am 186 ar ddiwrnod cynta'r chwarae yn erbyn Caint ddydd Mawrth.

Yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaergaint, llwyddodd Jack Murphy i gyrraedd 80 o rediadau, ond methodd ei gyd-fatwyr a sgorio mwy nag 20 rhediad yr un.

Llwyddodd Caint i gyrraedd 93-2 cyn diwedd y chwarae.

Mae'r sgorfwrdd yn golygu fod Caint gam yn agosach at godi i'r adran gyntaf, tra bo Morgannwg yn wynebu tipyn o her ar ail ddiwrnod y chwarae ddydd Mercher.