Rhybudd am law 'trwm a pharhaus' ledled Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybydd melynFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Gallai glaw trwm ddisgyn ar hyd Cymru gyfan ddydd Iau, gan achosi llifogydd ac effeithio ar deithwyr.

Mae rhybudd melyn mewn grym gan Y Swyddfa Dywydd ar hyd y wlad o 04:00 tan 22:00.

Mae disgwyl i rhwng 40 a 60mm o law ddisgyn mewn rhai mannau, gyda phosibilrwydd o hyd at 80-100mm ar dir uchel.

Mae rhybudd y gall gyrru fod yn anodd ac mae'n bosib y bydd oedi ar wasanaethau bws a thrên wrth i rai gwasanaethau gael eu canslo.

Fe allai cartrefi a busnesau hefyd gael eu heffeithio os yw lefel y dŵr yn codi'n rhy uchel.

Mae yna rybudd melyn arall am "wyntoedd cryf iawn" all effeithio rhannau o'r de ddwyrain a'r canolbarth.

Bydd y rhybudd hwnnw mewn grym o 18:00 ddydd Iau hyd at 09:00 fore Gwener.