Express Motors: Gwadu ceisiadau ffug am daliadau
- Cyhoeddwyd
Mae cyd-berchennog cwmni bws Gwynedd wedi gwadu ei fod wedi gwneud ceisiadau ffug am daliadau.
Wrth gael ei holi yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd Eric Wyn Jones, 77, o Bontnewydd nad oedd wedi cam-drin y system cynllun tocynnau teithio rhatach.
Dywedodd Mr Jones, sydd wedi bod yn rhedeg cwmni Express Motors ers 1977, ei fod wedi colli waled oedd yn cynnwys ei gerdyn teithio rhatach ei hun, ac fe wadodd ei fod wedi defnyddio ei gerdyn yn dwyllodrus.
Gofynnodd ei fargyfreithiwr John Philpotts iddo: "Ydych chi'n gwybod unrhyw beth am ddefnydd twyllodrus o'ch cerdyn?"
Atebodd Mr Jones: "Na."
Dywedodd nad oedd erioed wedi rhoi cyfarwyddyd i weithwyr eraill wneud hynny chwaith.
Mae'r erlyniad yn honni fod 32 pas bws i bobl dros 60 oed - y rhan fwyaf o'r rhain wedi eu colli neu eu dwyn - wedi cael eu defnyddio ar fysiau dros 80,000 o weithiau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd.
Cafodd un o'r tocynnau ei ddefnyddio 23,000 o weithiau.
Yn ôl yr erlyniad roedd y cwmni wedyn yn hawlio arian am y teithiau ffug gan Gyngor Gwynedd, oedd yna'n hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun consesiynau teithio.
Mae tri mab Mr Jones hefyd yn gwadu cyhuddiadau'n eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2018