Rhybudd am wyntoedd cryf iawn dros nos ym mwyafrif Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd gwynt dros nosFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Fe allai gwyntoedd cryf iawn achosi trafferthion yn y rhan fwyaf o Gymru nos Iau a bore Gwener wrth i Storm Bronagh daro'r DU.

Mae rhybudd melyn mewn grym gan Y Swyddfa Dywydd ar gyfer y cyfnod rhwng 18:00 ddydd Iau a 09:00 ddydd Gwener.

Fe allai'r gwyntoedd fod yn ddigon difrifol i beryglu bywyd, achosi difrod i adeiladau a choed, a thorri cyflenwadau trydan.

Hefyd mae posibilrwydd y bydd oedi i deithwyr am fod angen cau ffyrdd a phontydd a chanslo gwasanaethau trên, fferi ac awyren.

Rhybuddion llifogydd

Mae'r storm hefyd wedi dod â glaw trwm, sydd wedi arwain at alw criwiau tân i adroddiadau o lifogydd yn Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert a Chrug Hywel.

Cafodd y criwiau eu galw am tua 17:30 wrth i law trwm Storm Bronagh symud dros Gymru

Mae dau rybudd am lifogydd hefyd mewn grym i ardaloedd ger Afon Gwendraeth.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod disgwyl i lefel yr afon godi ym Mhontyberem, Pont-henri a Phont-iets.

Mae hefyd dros 20 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd.

Mae nifer o deithiau fferi rhwng Caergybi a Dulyn, a Phenfro a Rosslare wedi eu canslo.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Caerfyrddin

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Pen-y-bont

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

  • Wrecsam

  • Y Fflint

Dywed y Swyddfa Dywydd fod Storm Ali, a ddaeth â glaw trwm i rannau o Gymru ddydd Mercher, bellach wedi gadael y DU.