Ffermwr Caerfyrddin yn euog o droseddau lles anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon LlandrindodFfynhonnell y llun, Google

Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi osgoi carchar ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau lles anifeiliaid.

Ymddangosodd John Albert Clayton, o Dregynnwr, Caerfyrddin, gerbron Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher lle cafodd ei erlyn gan Gyngor Sir Powys.

Clywodd y llys fod Mr Clayton wedi cadw anifeiliaid mewn amodau anaddas heb fawr ddim bwyd, a'u bod wedi dioddef yn ddiangen.

Cafodd Mr Clayton ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar - wedi ei ohirio am chwe mis - yn ogystal â derbyn dirwy o £9,745.16.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag cadw neu fod yn berchen ar dda byw am gyfnod amhenodol.

32 carcas

Plediodd Mr Clayton yn euog i 11 trosedd dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, tair trosedd dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 ac un dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2014.

Clywodd y llys fod swyddogion iechyd anifeiliaid o wasanaeth Safonau Masnach y cyngor wedi ymweld â thir sy'n cael ei rentu gan y diffynnydd ar 5 Ionawr ar ôl derbyn cwyn.

Yn ystod yr ymweliad, gwelwyd gwartheg a lloi'n cael eu cadw mewn amodau anaddas heb fawr ddim, neu dim bwyd.

Roedd y gwartheg mewn cyflwr gwael gyda nifer yn dioddef o broblemau llygaid nad oedd wedi'u trin, oedd yn golygu bod yr anifeiliaid wedi dioddef yn ddiangen. Cafodd un o'r lloi ei ddifa gan filfeddyg i atal dioddef pellach.

Clywodd y llys hefyd bod 32 carcas dafad wedi ei ddarganfod ar ddarn arall o dir.

'Rhybudd clir'

Daeth i'r amlwg yn y llys fod gan Mr Clayton hanes o droseddu, gan iddo dderbyn rhybudd yn 1999 a'i erlyn yn 2008 a 2013 am droseddau tebyg.

Dywedodd y Cynghorydd James Evans, aelod o gabinet Cyngor Sir Powys: "Ni wnawn adael i achosion fel hyn o ddioddef fynd heb gosb".

"Rydym yn cefnogi penderfyniad y llys ac mae hwn yn rhybudd clir i ffermwyr bod achosion fel hyn yn golygu y byddwn yn gwneud cais am orchmynion gwahardd ac atal ad-droseddwyr rhag cadw da byw."

Ychwanegodd: "Rwyf am i Bowys arwain y ffordd ar les anifeiliaid ac i ni gael da byw o'r safon uchaf yn y DU."