Aelodau o 'dîm Gwlad Thai' yn achub dafad Gymreig
- Cyhoeddwyd
Dros yr haf roedd llygaid y byd wedi eu glynu i'r digwyddiadau yng Ngwlad Thai, lle'r oedd 12 aelod o dîm pêl-droed ieuenctid a'u hyfforddwr yn sownd mewn ogof dan y ddaear am bron i dair wythnos.
Achubwyd yr 13 rhwng 8-10 Gorffennaf, er y bu i un o'r criw achub farw.
Yn allweddol i'r ymdrech i achub y criw roedd tîm o ddeifwyr o Gymru.
Dros y dyddiau diwethaf roedd aelodau o'r un tîm yn gweithio mewn ymgyrch achub eithaf gwahanol... i achub dafad a oedd yn sownd mewn ogof.
Roedd y ddafad wedi bod yn sownd yn yr ogof yn y mynyddoedd duon ym Mannau Brycheiniog ers tair wythnos.
Dywedodd Mark Morgan sydd yn ffermwr ond yn gwirfoddoli gyda'r SMWCRT (South & Mid Wales Cave Rescue Team): "Er doedd o ddim ar yr un raddfa â'r digwyddiad yng Ngwlad Thai, rydyn ni'n falch iawn ein bod yn llwyddiannus gyda'r hyn wnaethon."
Cafodd y grŵp wybod gan aelodau ar ddiwedd Awst bod dafad yn sownd dan ddaear, rhyw bum milltir o'r ffordd agosaf yn y Mynyddoedd Duon, ond ni chafwyd hyd i'r ddafad.
Dywedodd Mark fod y ddafad yn sownd mewn be' sy'n cael ei alw'n shakehole - lle mae'r tir wedi dymchwel.
Cafodd yr RSPCA mwy o wybodaeth ddydd Sul, ynghyd â llun o'r lleoliad.
Dywedodd Mark, sy'n dod o Landdewi Nant Honddu: "Gyda'r lluniau roedden ni'n gallu lleoli'r shakehole cywir. Daeth y tîm at ei gilydd ddydd Sul ond roedd y tywydd yn ofnadwy felly roedd rhaid stopio.
"Fe wnaethon ni drio eto [ddydd Mawrth] ac fe aethon ni yn syth i'r man cywir. Roedd tyfiant dros y fynediad i'r ogof ac roedd e'n tua 25 troedfedd mewn dyfnder.
"Aeth un o'r criw lawr yr ogof ar raff, ffeindio'r ddafad a'i rhoi mewn sach. Duw a ŵyr sut y gwnaeth fyw mor hir lawr yna - doedd 'na ddim byd i'w fwyta lawr yna!
"Hwrdd ifanc oedd o, ac roedd 'na dipyn o stad ar y cr'adur, yn ymdopi efo golau dydd gan ei fod wedi bod yn y tywyllwch am dair wythnos - roedd hefyd yn denau iawn ac yn llwglyd.
"Nes i ei fwydo rhywfaint a rhoi 'chydig o ddraenen a chnau defaid iddo. Fe gerddodd i ffwrdd a bwyta dipyn o wair. Fe ddylai fod yn iawn unwaith y bydd yn cael digon o fwyd - roedd e dal yn bwyta pan wnaethon ni adael e!
"Rydym yn cadw llygad ar ein e-bost, yn aros am neges yn ein llongyfarch gan Elon Musk."