Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 0-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
OlssonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Martin olsson yn agos at sgorio i Abertawe yn yr hanner cyntaf

Fe orffennodd y gêm rhwng Middlesbrough ac Abertawe yn ddi-sgor yn stadiwm Riverside.

Fe ddechreuodd Abertawe'r gêm yn gryf gydag Oli McBurnie a Martin Olsson yn agos i roi'r Elyrch ar y blaen yn y chwarter awr agoriadol.

Yn dilyn dechreuad ymosodol Abertawe, fe newidiodd Middlesbrough eu tactegau, ond Abertawe aeth yn agos eto i sgorio drwy ergyd Wayne Routledge.

Daeth yr hanner cyntaf i ben gydag Abertawe yn siomedig nad oedden nhw wedi cymryd eu cyfleoedd yn well.

'Taro'r trawst'

Fe aeth Stewart Downing yn agos i sgorio i'r tîm cartref yn fuan yn yr ail hanner gydag ergyd o bell, ond llwyddodd Erwin Mulder yn y gôl i Abertawe gael ei gorff tu ôl y bel.

Fe darodd Tom Carroll y trawst i'r elyrch gyda gwyriad oddi ar groesiad o' asgell.

Wrth i'r gêm ddirwyn i ben fe arbedodd Moulder yn dda o beniad gan Ayala ac roedd ergyd hwyr Braithwaite o groesiad Howson fymryn heibio'r postyn.

Abertawe yw'r tîm cyntaf i gymryd pwynt oddi ar Middlesbrough gartref y tymor hwn, wrth i'r Elyrch ddisgyn fymryn lawr y tabl i'r 13 safle yn dilyn y gêm.