Galw i ostwng cyfyngiad cyflymdra ar ffordd 'beryglus'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gyfyngiad cyflymdra gael ei ostwng ar ffordd "beryglus" cyn i rywun gael ei ladd, yn ôl ymgyrchydd.
Mae Helen Dando wedi cofnodi 18 gwrthdrawiad ar ffordd yr A4093 ger Gilfach Goch yn 2017/18 - gyda thri ohonynt yn digwydd yr un diwrnod.
Ond mae Ms Dando yn honni na wneith Cyngor Rhondda Cynon Taf ostwng y cyfyngiad cyflymdra o 60 m.y.a., gan y byddai'n costio gormod.
Dywedodd Ms Dando: "Yn anffodus, os na wnâi rywbeth am hyn, bydd rhywun yn marw."
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael cais am ymateb.
'Mater o amser'
Mae Ms Dando yn byw yn agos at gornel ar y ffordd. "Mae'r ffordd mor beryglus, rydym mwy neu lai yn cael gwrthdrawiad arni bob rhiw chwech i wyth wythnos," meddai.
"Rydym wedi cael tri gwrthdrawiad mewn un diwrnod, rydym wedi cael dau wrthdrawiad ar ddiwrnod arall ... Lwcus does 'na'm cerbyd yn teithio o'r cyfeiriad arall wedi'i effeithio,
"Mater o amser yw hi nes i ni gael gwrthdrawiad angheuol yma," meddai.
Mae cyfyngiad cyflymder ar y ffordd yn 40 m.y.a., ond yn newid i 60 m.y.a , cyn gostwng i 30 m.y.a. tuag awr i ffwrdd o ble mae Ms Dando'n byw.
Yn 2017 fe wnaeth Ms Dando gofnodi 15 digwyddiad, a hyd yma yn 2018 mae hi wedi cofnodi tri, gan basio'r wybodaeth ymlaen at yr heddlu.
Er gwaethaf ei hymdrechion, mae hi wedi methu cael y cyngor i gytuni o ostwng y cyfyngiad cyflymder, gan nad yw ei chofnodion hi o'r gwrthdrawiadau'r un peth a'r rhai sydd gan y cyngor.
'Pryderu'
Yn ôl Ms Dando, dim ond tri gwrthdrawiad mae'r cyngor wedi'i gofnodi ar y rhan honno o'r fordd yn 2017.
Mae hi'n honni fod y cyngor wedi dweud wrthi y buasai gostwng y cyfyngiad cyflymder yn costio £5,000.
Mae hi'n credu'r rheswm am hynny yw gan nad yw'r gwrthdrawiad yn cael ei gofnodi os nad yw person yn cael ei drin gan barafeddyg.
"Dwi wirioneddol yn pryderu gan ei fod y tu allan i fy nghartref," meddai.
"Dwi'n ofni os na wnâi rywbeth amdano, byddai'n difaru os bydd rhywun yn cael anaf difrifol, neu farw," meddai.
Nid yw Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cysylltu'n ôl hyd yma gyda'r BBC yn dilyn cais am ymateb.