Bywyd newydd llawn braw i hen long ar arfordir y gogledd

  • Cyhoeddwyd
The Duke of Lancaster ym MostynFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y llong yn arfer hwylio ar draws Môr Iwerddon

Bydd hen long fferi sydd wedi bod yn segur ar yr arfordir yn Sir y Fflint ers y 1980au yn ailagor yn y flwyddyn newydd fel atyniad profiadau apocalyptaidd.

Bydd cwmni Zombie Infection yn cynnal digwyddiadau ar long y Duke of Lancaster yn ardal Mostyn o fis Ionawr ymlaen.

Mae'r llong yn olygfa gyfarwydd i deithwyr ar ffordd yr arfordir rhwng Prestatyn a'r Fflint ers cael ei rhoi mewn doc sych preifat ar ôl mynd i'r lan yn aber Afon Dyfrdwy yn 1979.

Ers hynny bu sawl ymgais aflwyddiannus i ddatblygu'r llong, gan gynnwys ei hailenwi'n Fun Ship gyda bar a stondinau marchnad y tu mewn.

Ffynhonnell y llun, Zombie Infection
Disgrifiad o’r llun,

Mae actorion yn gwisgo fel sombis fel rhan o'r profiad

Yn ystod digwyddiadau Zombie Infection mae oedolion yn ffugio bod mewn byd apocalyptaidd gyda'r nod o "atal haint all peryglu'r ddynoliaeth". Maen nhw'n cael eu herio gan actorion mewn gwisg sombi.

Mae'r cwmni'n trefnu digwyddiadau tebyg yn Lerpwl, Birmingham, Sheffield, Caerlŷr a Milton Keynes, ac maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw ddilynwyr ar draws y byd.

Dywedodd llefarydd: "Wedi gwelliannau diogelwch a logistaidd, llawer o baent a chariad rydym yn gallu cynnig y lleoliad rhyfeddol yma i'n dilynwyr rhyngwladol yn 2019 ac wedi hynny, gobeithio.

"Rydym eisiau rhoi sicrwydd i bobl yn lleol ac yn genedlaethol y byddem, mewn partneriaeth â'r perchnogion, yn cymryd gofal da ohoni a'i dychwelyd i'w gogoniant blaenorol.

Ffynhonnell y llun, Zombie Infection
Disgrifiad o’r llun,

Deunydd marchnata'r digwyddiadau ar fwrdd y llong

Cafodd y Duke of Lancaster ei hadeiladu gan y cwmni Harland & Wolff, Belffast yn 1956 ac roedd yn hwylio rhwng Belffast a Heysham yn Sir Gaerhirfryn tan 1975.

Yn ei hanterth, roedd yn cludo 1,800 o deithwyr a dros 100 o geir, cyn cael ei haddasu yn 1970 i gludo ceir yn bennaf.

Fe fu mewn gwasanaeth wedi hynny am ddwy flynedd rhwng Caergybi a Dun Laoghaire, ond fe benderfynwyd bod hi'n rhy gostus i gynnal a chadw'r injans tyrbin stêm.

Ffynhonnell y llun, Dudug
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llong ei haddurno â gwaith artistiaid graffiti yn 2012 ond mae wedi ei hail-baentio yn ddiweddar.